Mae hyn fel perfedd mochyn: yn ddi-ben-draw! Chofia i ddim yn iawn, Berwyn, ond rwy’n credu bod yr arbenigwyr priffyrdd yn mynnu bod gwahaniaeth technegol rhwng ‘stop’a ‘wait’. Gewch chi geisio dyfalu beth yw hwnnw!

Mary

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones
Sent: 10 July 2006 13:13
To: [log in to unmask]
Subject: Re: viewpoint

 

Nid 'aros' yw'r gorchymyn, neu fyddet ti ddim yn cael symud yn dy flaen ... Hollti blew, wrth gwrs, ac efallai y byddai hi wedi bod yn well petaen nhw wedi mentro defnyddio'r gair 'stopiwch'. Rhaid cofio nad oedd Cymry da fel ein Panel ni, nôl yn y saithdegau a chyn hynny, ddim yn rhyw awyddus iawn i weld benthyciadau o'r Saesneg yn tra-arglwyddiaethu ar arwyddion pan fyddai geiriau fel 'sefwch' yn gwneud y tro.

 

Berwyn

 

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Geraint Løvgreen

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Monday, July 10, 2006 10:39 AM

Subject: Re: viewpoint

 

Mae'r arwydd "sefwch yma" 'na bob amser yn gwneud i mi feddwl am ddod allan o'r car a sefyll! Be sy'n bod ar "arhoswch"?

 

Geraint

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Mary Jones

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Sunday, July 09, 2006 9:21 PM

Subject: Re: viewpoint

 

Sori, Berwyn, ond roedd Moc Rogers a finne yn y drafodaeth hefyd! Ond rych chi’n iawn: cafodd y term ei gynnig am ‘viewpoint’ yn y rhestr hirfaith o arwyddion yn yr Highway Regulations (rwy’n credu) nol yn yr 80au. Byddai Adran Priffyrdd y Swyddfa Gymreig yn cynnig fersiynau Cymraeg o’r arwyddion niferus a fyddai’n cael eu cymeradwyo i awdurdodau priffyrdd (cynghorau sir, fel rheol) eu defnyddio ar eu harwyddion ffyrdd.  Doedd dim rheidrwydd ar yr awdurdodau i dderbyn y cynigion, a dyna pam y gwelwch chi gynifer o amrywiadau ar hyd a lled y wlad o hyd, e.e. yr arwydd wrth oleuadau traffig dros dro pan fydd gwaith ffordd yn digwydd, Pan welwch olau coch, sefwch yma / Tra bydd golau coch, sefwch yma / Pan fydd y golau’n goch, sefwch yma.

Felly, mewn gwirionedd, does dim angen chwilio am air: mae ar gael ac wedi ei gymeradwyo gan Banel Cyfieithu’r Swyddfa Gymreig – a oedd yn cynnwys hoelion wyth fel T J Morgan, Glanmor Williams, R T D Williams, E D Jones, Mati Rees, Dafydd Jenkins, etc, etc.

Mary

9.7.06

 

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones
Sent: 07 July 2006 15:25
To: [log in to unmask]
Subject: Re: viewpoint

 

Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, td. 1761, ystyron 'gwylfa' yw 'lle i wylio ohono, ...watching-place, spying place, observation post'; 'y weithred o wylio'; 'gwylnos'.

 

Gwell cadw at 'golygfan', a rheswm da iawn (iawn!) dros wneud hynny yw bod gen i ryw syniad mai fi fathodd e, flynyddoedd maith yn ôl, ar gyfer arwydd ffordd - yr un ar y ffordd gefn o Lanidloes i Lanbryn-mair sy'n pwyntio at Lyn Clywedog, mae'n debyg. Yno y gwelais i'r gair ar arwydd am y tro cyntaf.

 

Berwyn

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Ann Corkett

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Friday, July 07, 2006 2:37 PM

Subject: Re: viewpoint

 

Siawns bod 'na ddigon o leoedd eraill o'r enw "gwylfa" yng Nghymru.  Pam mynd yn erbyn yr Arolwg Ordnans a chreu gair os oes 'na un mewn bodolaeth.

Ann

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Huw Garan

Sent: Friday, July 07, 2006 2:21 PM

Subject: Re: viewpoint

 

'Golygfan' sy'n swnio orau i fi yn sicr.  Dyw 'Gwylfa' ddim cweit yn cyfleu'r un syniad i fi (heb law am y delweddau annymunol o bwerdai niwclear).

 

Hg


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.8/380 - Release Date: 30/06/2006


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date: 04/07/2006


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date: 04/07/2006