Print

Print


Ti sy'n iawn, Glenys. Fe ddysgodd Bedwyr ni flynyddoedd yn ôl mai 'y drydedd bennod o 'r Efengyl yn ôl Luc' oedd y ffordd naturiol Gymraeg o fynegi'r peth, nid 'trydedd bennod yr Efengyl yn ôl Luc'.  Cefais gadarnhad o hynny wrth drafod gyda Peter Wynn a ddylid dweud 'y mwyafrif o'r plant' neu 'mwyafrif y plant'. 'Y cyntaf', meddai. 'Os yw rhywbeth yn rhan o rywbeth mwy, defnyddio 'o' sy raid.'
 
Berwyn
(yr ail fab o bedwar, nid 'ail fab pedwar' - wel, gobeithio! - a'r ail o bedwar mab, nid 'ail bedwar mab' - a olygai 'ail set o bedwar mab'! Ffiw!)
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">GLENYS ROBERTS
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Friday, July 07, 2006 3:58 PM
Subject: o neu beidio!

Pregethwyd yn y cylch yma yngly^n â chamddefnyddio 'o' i gyfieithu ymadroddion sy'n cynnwys 'of' yn Saesneg.  Ond rhaid cofio bod ei angen weithiau!  Dw i'n golygu i'r COI y pnawn yma ac yn darllen y diffiniad hwn:
 
Arglwydd Ganghellor - Aelod y cabinet sy'n gweithredu fel llefarydd Ty^'r Arglwyddi ...
 
Dw i'n cymryd na fasai'r cyfieithydd wedi ystyried ysgrifennu:
 
David Beckam - aelod y tîm sy'n (sorri - oedd yn) arwain Lloegr ...
 
yr aelod o'r Cabinet - the member of the Cabinet ...
aelod y Cabinet - the Cabinet's member (disynnwyr yma)
yr aelod o'r tîm - the member of the team
aelod y tîm - the team's member
rhan o'r corff - part of the body
 
Iawn, dw i'n gwybod - mae hi braidd yn hwyr ar bnawn Gwener i ddechrau meddwl am hyn, heb sôn am ei drafod!
Mwynhewch y penwythnos.
Glenys
 
 


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date: 04/07/2006