Print

Print


Ti sy'n iawn, Glenys. Fe ddysgodd Bedwyr ni flynyddoedd yn ôl mai 'y drydedd bennod o 'r Efengyl yn ôl Luc' oedd y ffordd naturiol Gymraeg o fynegi'r peth, nid 'trydedd bennod yr Efengyl yn ôl Luc'.  Cefais gadarnhad o hynny wrth drafod gyda Peter Wynn a ddylid dweud 'y mwyafrif o'r plant' neu 'mwyafrif y plant'. 'Y cyntaf', meddai. 'Os yw rhywbeth yn rhan o rywbeth mwy, defnyddio 'o' sy raid.'

Berwyn
(yr ail fab o bedwar, nid 'ail fab pedwar' - wel, gobeithio! - a'r ail o bedwar mab, nid 'ail bedwar mab' - a olygai 'ail set o bedwar mab'! Ffiw!)
  ----- Original Message ----- 
  From: GLENYS ROBERTS 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Friday, July 07, 2006 3:58 PM
  Subject: o neu beidio!


  Pregethwyd yn y cylch yma yngly^n â chamddefnyddio 'o' i gyfieithu ymadroddion sy'n cynnwys 'of' yn Saesneg.  Ond rhaid cofio bod ei angen weithiau!  Dw i'n golygu i'r COI y pnawn yma ac yn darllen y diffiniad hwn:

  Arglwydd Ganghellor - Aelod y cabinet sy'n gweithredu fel llefarydd Ty^'r Arglwyddi ...

  Dw i'n cymryd na fasai'r cyfieithydd wedi ystyried ysgrifennu:

  David Beckam - aelod y tîm sy'n (sorri - oedd yn) arwain Lloegr ...

  yr aelod o'r Cabinet - the member of the Cabinet ...
  aelod y Cabinet - the Cabinet's member (disynnwyr yma)
  yr aelod o'r tîm - the member of the team
  aelod y tîm - the team's member
  rhan o'r corff - part of the body

  Iawn, dw i'n gwybod - mae hi braidd yn hwyr ar bnawn Gwener i ddechrau meddwl am hyn, heb sôn am ei drafod!
  Mwynhewch y penwythnos.
  Glenys




------------------------------------------------------------------------------


  No virus found in this incoming message.
  Checked by AVG Free Edition.
  Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date: 04/07/2006