Print

Print


A oes unrhyw ansoddair teirsill neu fwy yn yr iaith Gymraeg nad yw  
Geraint Jones wedi'i ddefnyddio yn ei golofn?

On 7 Gorff 2006, at 07:35, Berwyn Jones wrote:

> Yn ei erthygl ar td. 2 yn y rhifyn cyfredol o'r Cymro, mae Geraint  
> Jones yn defnyddio'r gair 'arobryn' ddwywaith ...
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message ----- From: "Siân Roberts"  
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, July 07, 2006 11:28 PM
> Subject: Re: ATB: award-winning
>
>
> Dw i'n dal mewn sioc ar ôl i 'nhad yng nghyfraith ddweud wrtha i bod
> y gaseg wedi cael cyw!
>
> Gyda llaw  - roedd John yn sôn am ryw broblem yn y system ddoe -
> rwy'n cael 5 neu 6 o'r negeseuon hyn ar y tro  - rhyw dagfa yn rhywle.
>
> Hwyl
> Siân
>
> On 7 Gorff 2006, at 06:56, Puw, John wrote:
>
>> Roedd ffrind i mi (Gwyddeles) yn dweud am ei merch rai  
>> blynyddoedd  yn ôl pan symudodd y teulu i Nebo Llanrwst. Roedd  
>> hi'n enwi'r fenyw  ac yn yna'r gwryw cyfatebol.  Roedd ei rhestr  
>> yn cynnwys buwch /  tarw; dafad / maharen (ysgol Capel Garmon! Ys  
>> dywed ffrind arall i  mi o Ddinas Mawddwy, am enw dwl ar  
>> hwrdd!!!!); iar / ceiliog.   Roedd ei brawd mawr yn gwrando ac  
>> wedi cael llond bol ar y sylw  oedd ei chwaer yn ei gael!  "So  
>> what's the male of Bitch?"  gofynnodd.  Basda'd oedd ateb y chwaer  
>> fach.   Sori, af i nôl fy  nghôt!
>>
>>
>> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
>> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical  
>> terminology  and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU- 
>> [log in to unmask]] Ar ran  Ann Corkett
>> Anfonwyd/Sent: 07 Gorffennaf 2006 14:28
>> At/To: [log in to unmask]
>> Pwnc/Subject: Re: award-winning
>>
>> Ymhellach i fy neges ddoe, bum yn Siop albin ym Mangor Uchaf y  
>> bore  'ma a
>> chlywed gwraif yn dweud wrth y wraig y tu ol i'r cownter:
>> "the Shetland pony in the field had a baby last night" - the mind  
>> boggles!
>> Ann
>> ----- Original Message -----
>> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Thursday, July 06, 2006 12:52 PM
>> Subject: Re: award-winning
>>
>>
>> 'Rwyf wedi cael yn union yr un sgwrs a dyn busnes o ddysgwr ym  
>> Mhorthaethwy.
>> 'Roedd o wedi gofyn i Gymro am gyfieithiad o "award-winning"; y   
>> Cymro wedi
>> arddweud rhywbeth dros y ffon, y dysgwr wedi'i gopio'n anghywir,  
>> a  llawer o
>> daflenni wedi'u hargraffu'n anghywir.  Awgrymais "arobryn" a  
>> chael  ganddo
>> fod y Cymro eisoes wedi son am y gair ond ei wrthod fel rhywbeth   
>> diarth.
>> "Gwobrwyedig" awgrymais wedyn, gyda chaniated - ond nid bendith -   
>> Bruce.
>> Beth yw pwynt bod a gair da am rywbeth a methu ei ddefnyddio?   
>> Sut  mae'r
>> broses yn gweithio bod geiriau'n cael eu colli fel hyn, ac eto mae  
>> rhybeth
>> fel "Pwyllgor" yn cymryd ei le yn iawn?  Mae 'ffrind' wedi'i   
>> dderbyn yn lle,
>> neu wrth ymyl 'cyfaill/cyfeilles', ond mae'n biti bod "partner" -  
>> a  oedd yn
>> ymwneud a partner busnes neu chwarae "bridge" - wedi disodli
>> "cymar/cymhares" yn llwyr.  Ydy hyn yn ddiogi - neu ddymuniad     
>> ymwybodol i
>> fod yn llai pendant?  Gallaf gofio arfer Cyngor Ceredigion o   
>> ddefnyddio
>> "cymar/cymhares" ar wahoddiadau i ginio'r Cadeirydd flynyddoedd  
>> yn  ol, ond
>> 'dych chi byth yn ei glywed yn awr.
>>
>> Gyda llaw, tra bod gen i amser i fwydro, peidiwch a theimlo mai'r   
>> Gymraeg yn
>> unig sy'n dioddef.  Ydych chi wedi sylwi sut mae rhaglenni natur  
>> yn  son am
>> baby birds, baby sheep ayb, yn lle chicks, lambs ac ati?  A dyma'r  
>> rhaglenni
>> sydd i fod i addysgu pobl!
>>
>> Ann
>> ----- Original Message -----
>> From: "Huw Tegid" <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Thursday, July 06, 2006 12:31 PM
>> Subject: Re: award-winning
>>
>>
>> Mae'n ddrwg gen i - dyma ôl-nodyn i'r neges flaenorol.  Cofnodir 150
>> enghraifft o 'Gwobrwyedig' ar Google - e.e.
>>
>>
>> http://www.wales.nhs.uk/sites3/docmetadata.cfm?  
>> orgid=92&id=35329&pid=4026
>> Health Minister Visits Award-Winning Nurses
>>
>>
>> http://www.wales.nhs.uk/sites3/w-docmetadata.cfm?  
>> orgid=92&id=35484&pid=12180
>> Y Gweinidog Iechyd Yn Ymweld  Nyrsus Gwobrwyedig
>>
>>
>>
>> Fe'i dyfynnir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru hefyd fel cyfieithiad o
>> 'prize-winning', neu air sy'n debyg i'r ymadroddion Cymraeg   
>> 'arobryn' ac
>> 'wedi ennill gwobr'.
>>
>> Cofion gorau,
>>
>> Huw
>>
>>
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and   
>> vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian  
>> Roberts
>> Sent: 06 July 2006 10:22
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: award-winning
>>
>> Doeddwn i ddim wedi clywed 'arobryn' tan o'n i yn y coleg - a dysgwr
>> gyflwynodd y gair i mi bryd hynny!
>> Wnes i ei ddefnyddio yn ddiweddar a daeth y cwsmer - sy'n Gymraes   
>> eitha sicr
>> ei Chymraeg - yn ôl ataf a gofyn ai camgymeriad oedd e.
>> Mae arna i awydd defnyddio "llwyddiannus" y tro hwn.
>>
>> --
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG Free Edition.
>> Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date:   
>> 04/07/2006
>>
>>
>> -- 
>> No virus found in this outgoing message.
>> Checked by AVG Free Edition.
>> Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date:   
>> 04/07/2006
>>
>>
>>
>> -- 
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG Free Edition.
>> Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.8/380 - Release Date:   
>> 30/06/2006
>>
>>
>> -- 
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG Free Edition.
>> Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.8/380 - Release Date:   
>> 30/06/2006
>> Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o  
>> gyfathrebu.   Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon  
>> e-bost a  drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.
>>
>> Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y  
>> neges  hon. Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad,  
>> gadewch i'r  sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich  
>> system.   Gall  defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb  
>> ganiatâd fod yn  anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir  
>> yn y ddogfen yn  bolisi swyddogol.  Diolch i chi am eich  
>> cydweithrediad.
>>
>> Heddlu Gogledd Cymru
>>
>> Internet e-mail is not to be treated as a secure means of   
>> communication. North Wales Police monitor all Internet e-mail   
>> activity and content.
>>
>> This communication is intended for the addressee(s) only.  Please   
>> notify the sender if received in error and erase from your  
>> system.   Unauthorised use or disclosure of the content may be  
>> unlawful,  Opinions expressed in this document may not be official  
>> policy.   Thank you for you co-operation.
>>
>> North Wales Police
>>
>>
>> Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o  
>> gyfathrebu.   Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon  
>> e-bost a  drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.
>>
>> Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y  
>> neges  hon. Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad,  
>> gadewch i'r  sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich  
>> system.   Gall  defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb  
>> ganiatâd fod yn  anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir  
>> yn y ddogfen yn  bolisi swyddogol.  Diolch i chi am eich  
>> cydweithrediad.
>>
>> Heddlu Gogledd Cymru
>>
>> Internet e-mail is not to be treated as a secure means of   
>> communication. North Wales Police monitor all Internet e-mail   
>> activity and content.
>>
>> This communication is intended for the addressee(s) only.  Please   
>> notify the sender if received in error and erase from your  
>> system.   Unauthorised use or disclosure of the content may be  
>> unlawful,  Opinions expressed in this document may not be official  
>> policy.   Thank you for you co-operation.
>>
>> North Wales Police
>>
>
>
>
> -- 
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date:  
> 04/07/2006