Onid "lle i wylio ohono" yw'r ystyr yn y cwestiwn?
"Hynny yw, lle mae rhywun yn edrych ar olygfa yn hytrach na safbwynt, barn."

(Ond mae "golygfan" yn air da iawn hefyd, Berwyn)

Siân

On 7 Gorff 2006, at 07:24, Berwyn Jones wrote:

Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, td. 1761, ystyron 'gwylfa' yw 'lle i wylio ohono, ...watching-place, spying place, observation post'; 'y weithred o wylio'; 'gwylnos'.
 
Gwell cadw at 'golygfan', a rheswm da iawn (iawn!) dros wneud hynny yw bod gen i ryw syniad mai fi fathodd e, flynyddoedd maith yn ôl, ar gyfer arwydd ffordd - yr un ar y ffordd gefn o Lanidloes i Lanbryn-mair sy'n pwyntio at Lyn Clywedog, mae'n debyg. Yno y gwelais i'r gair ar arwydd am y tro cyntaf.
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">Ann Corkett
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Friday, July 07, 2006 2:37 PM
Subject: Re: viewpoint

Siawns bod 'na ddigon o leoedd eraill o'r enw "gwylfa" yng Nghymru.  Pam mynd yn erbyn yr Arolwg Ordnans a chreu gair os oes 'na un mewn bodolaeth.
Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">Huw Garan
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Friday, July 07, 2006 2:21 PM
Subject: Re: viewpoint

'Golygfan' sy'n swnio orau i fi yn sicr.  Dyw 'Gwylfa' ddim cweit yn cyfleu'r un syniad i fi (heb law am y delweddau annymunol o bwerdai niwclear).
 
Hg



No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.8/380 - Release Date: 30/06/2006



No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date: 04/07/2006