Print

Print


Pam mynd ati i 'greu' gair fel gwobrwyedig pan fo gair fel 'arobryn' ar gael
ers blynyddoedd maith? O'n i dan yr argraff ei fod wedi hen ennill ei blwy'
ac yn cael ei arfer.  Dyna'r gair rydyn ni'n ei ddefnyddio yma yn Abertawe a
does neb erioed wedi gofyn beth yn y byd oedd ei ystyr!  (ond efallai bod
rhesymau eraill dros hynny!!)

> ----------
> From: 	Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary[SMTP:[log in to unmask]] on behalf of Mary
> Jones[SMTP:[log in to unmask]]
> Reply To: 	Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> Sent: 	06 July 2006 13:59
> To: 	[log in to unmask]
> Subject: 	Re: award-winning
> 
> Diolch i Ann am ddweud yr hyn oedd ar feddwl nifer ohonon ni, rwy'n siwr.
> Beth bynnag yw'r ddadl ynglyn â defnyddio gair sydd wedi mynd bron yn
> angof, yr hyn a'm tarodd i am y stori am y prifathro ysgol gynradd oedd ei
> fod yn sicr nad oedd 'arobryn' yn dderbyniol, ond ar y llaw arall yn
> cynnig rhyw erthyl ffug fel 'gwobredig'. (Pe bae wedi cynnig 'gwobrwyedig'
> byddai'n nes ati!) Iddo fe roedd cynnig gair gwneud fel 'gwobredig' yn
> iawn. Pam? Am ei fod yn 'swnio fel y Saesneg'. Hynny yw, rhaid i ni beidio
> â disgwyl pobl i allu deall syniadau na geiriau yn Gymraeg os na allan nhw
> wedi tebygrwydd â'r Saesneg. Dyna sy'n cyfrif am erchyllbethau fel 'y
> defnydd o'r Gymraeg', 'y nifer (neu'r rhif, fel rheol) o'r plant ar y
> gofrestr. 
> Dadl arall o blaid mynnu 'ailgyflwyno' geiriau i ddarllenwyr cyfoes yw
> gofyn faint o siaradwyr Cymraeg oedd yn adnabod y geiriau cynulliad,
> cynghorau cymuned, goddiweddyd, hwylfyrddio, teledu, rhewgell, lloeren, ac
> ati, ac ati nes iddyn nhw ddod yn gyfarwydd? Bu'n rhaid gwneud
> penderfyniadau gan rywrai rywbryd pan ddaeth y pethau hyn yn gyffredin yn
> ein bywyd pob dydd. Os oes rhaid cyfiawnhau popeth drwy edrych ar eu
> tebygrwydd i eiriau Saesneg, rhown y gorau i ddefnyddio'r iaith nawr a
> pheidio ag esgus ein bod yn hyrwyddo dim byd ond yr iaith honno. Byddai'n
> arbed llawer iawn o ffwdan a phoen!
> Reit, nôl at y gwaith!
> Mary
> 
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
> Sent: 06 July 2006 12:53
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: award-winning
> 
> 'Rwyf wedi cael yn union yr un sgwrs a dyn busnes o ddysgwr ym
> Mhorthaethwy. 
> 'Roedd o wedi gofyn i Gymro am gyfieithiad o "award-winning"; y Cymro wedi
> 
> arddweud rhywbeth dros y ffon, y dysgwr wedi'i gopio'n anghywir, a llawer
> o 
> daflenni wedi'u hargraffu'n anghywir.  Awgrymais "arobryn" a chael ganddo 
> fod y Cymro eisoes wedi son am y gair ond ei wrthod fel rhywbeth diarth. 
> "Gwobrwyedig" awgrymais wedyn, gyda chaniated - ond nid bendith - Bruce. 
> Beth yw pwynt bod a gair da am rywbeth a methu ei ddefnyddio?  Sut mae'r 
> broses yn gweithio bod geiriau'n cael eu colli fel hyn, ac eto mae rhybeth
> 
> fel "Pwyllgor" yn cymryd ei le yn iawn?  Mae 'ffrind' wedi'i dderbyn yn
> lle, 
> neu wrth ymyl 'cyfaill/cyfeilles', ond mae'n biti bod "partner" - a oedd
> yn 
> ymwneud a partner busnes neu chwarae "bridge" - wedi disodli 
> "cymar/cymhares" yn llwyr.  Ydy hyn yn ddiogi - neu ddymuniad   ymwybodol
> i 
> fod yn llai pendant?  Gallaf gofio arfer Cyngor Ceredigion o ddefnyddio 
> "cymar/cymhares" ar wahoddiadau i ginio'r Cadeirydd flynyddoedd yn ol, ond
> 
> 'dych chi byth yn ei glywed yn awr.
> 
> Gyda llaw, tra bod gen i amser i fwydro, peidiwch a theimlo mai'r Gymraeg
> yn 
> unig sy'n dioddef.  Ydych chi wedi sylwi sut mae rhaglenni natur yn son am
> 
> baby birds, baby sheep ayb, yn lle chicks, lambs ac ati?  A dyma'r
> rhaglenni 
> sydd i fod i addysgu pobl!
> 
> Ann
> ----- Original Message ----- 
> From: "Huw Tegid" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, July 06, 2006 12:31 PM
> Subject: Re: award-winning
> 
> 
> Mae'n ddrwg gen i - dyma ôl-nodyn i'r neges flaenorol.  Cofnodir 150 
> enghraifft o 'Gwobrwyedig' ar Google - e.e.
> 
> 
> http://www.wales.nhs.uk/sites3/docmetadata.cfm?orgid=92&id=35329&pid=4026
> Health Minister Visits Award-Winning Nurses
> 
> 
> http://www.wales.nhs.uk/sites3/w-docmetadata.cfm?orgid=92&id=35484&pid=121
> 80
> Y Gweinidog Iechyd Yn Ymweld  Nyrsus Gwobrwyedig
> 
> 
> 
> Fe'i dyfynnir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru hefyd fel cyfieithiad o 
> 'prize-winning', neu air sy'n debyg i'r ymadroddion Cymraeg 'arobryn' ac 
> 'wedi ennill gwobr'.
> 
> Cofion gorau,
> 
> Huw
> 
> 
> 
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary 
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 06 July 2006 10:22
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: award-winning
> 
> Doeddwn i ddim wedi clywed 'arobryn' tan o'n i yn y coleg - a dysgwr 
> gyflwynodd y gair i mi bryd hynny!
> Wnes i ei ddefnyddio yn ddiweddar a daeth y cwsmer - sy'n Gymraes eitha
> sicr 
> ei Chymraeg - yn ôl ataf a gofyn ai camgymeriad oedd e.
> Mae arna i awydd defnyddio "llwyddiannus" y tro hwn.
> 
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date: 04/07/2006
> 
> 
> -- 
> No virus found in this outgoing message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date: 04/07/2006
> 
> 
> 
> -- 
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.8/380 - Release Date: 30/06/2006
> 


******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask]

Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] *******************************************************************