Mae Audrey wedi f'atgoffa mae oddi wrthi hi y gefais i'r rhestr, ac iddi nodi:
 
"Hon yw'r rhestr sy'n sail i "Gyrchwr Codau Post" gwefan Swyddfa'r Post. Dyma felly'r enwau strydoedd dwyieithog y mae Swyddfa'r Post yn eu cydnabod. Gan hynny, efallai nad yw'n hollgynhwysfawr ac y mae ei chynnwys y tu hwnt i'n rheolaeth ni."
 
Ann

----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Ann Corkett
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, July 05, 2006 9:55 AM
Subject: Re: Strydoedd Wrecsam

Mae gen i restr, "Rhestr Strydoedd Dwyieithog (Swyddfa'r Post Mehefin 2003).xls".  Ni chofiaf o ble yn union mae wedi dod - mae gen i syniad i Audrey Ellis son amdani yn un o gynadleddau'r Gymdiethas yn Llandrindod, ond dw i ddim yn medru gweld a ges i'r rhestr gan gyfieithwyr y Cynulliad, ynteu dim ond y cyfeiriad ati.
 
Beth bynnag, mae'n cynnwys nifer o enwau nad ydynt ar restr Geraint (er bod ganndo fo rai nad ydynt ar fy rhestr innau), nifer sydd yr un fath a nifer sydd ychydig bach yn wahanol.  Croeso i unrhyw gael copi, ond byddai'n dda gen i gael gwybod o ble y daeth, a oes fersiwn diweddarach, a phwy sy'n medru cadarnhau pa fersiwn o rai enwau sy'n iawn.
 
Ann
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Geraint Løvgreen
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, July 04, 2006 7:09 PM
Subject: Strydoedd Wrecsam

Ar ol disgwyl dwy flynedd i Gyngor Wrecsam ddod yn ol ataf efo rhestr o enwau strydoedd y dref, cefais afael ar fap dwyieithog o ganol y dref a chopio'r enwau. Felly dyma restr all fod o ddefnydd i unrhyw un sydd ei heisiau. (Roedd gen i hen restr ond roedd honno'n anghywir)
 
Geraint


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.8/380 - Release Date: 30/06/2006


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.8/380 - Release Date: 30/06/2006