Dw i'n cytuno y dylai meddalwedd ganiatau i bobl deipio'r acenion heb orfod trafferthu am yr HTML ac ati - ond nid yw pawb a'r meddalwedd hwnnw ac weithiau mae'n bosibl y bydd cleient yn gofyn am y codau - dyna pam dw i wedi'u hanfon cyfeiriadau'r tudalennau hyn ymlaen at y rhestr.


 
On 20/07/06, Dafydd Tomos <[log in to unmask]> wrote:
> Wrth edrych ar HTML gwefan Bwrdd yr Iaith gwelaf eu bod wedi defnyddio &#375
> i gael yr y^ i ymddangos yn eu tudelannau hefyd.

Ychydig o esboniad pellach o du ôl y llenni..

Yn gyffredinol dwi'n credu y dylai unrhyw feddalwedd neu system
reoli cynnwys ar wefan guddio cymhlethdod trosi acenion i'r
ffurf cywir. Gore po cynted cyn fo defnyddwyr yn arfer teipio
acenion i fewn ym mha bynnag system a gweld y rhain yn cael ei
trosglwyddo'n gywir drwy bob cyfrwng. Os nag ydyn nhw, cwynwch
i ddatblygwyr y meddalwedd/wefan.

Ar wefan y Bwrdd, sy'n defnyddio UTF-8, mae'n bosib teipio neu
ludo cynnwys i fewn i'r CMS - mae acenion w^ a y^ a pethau
fel dyfynnodau 66/99 yn cael eu trosi i'r endid HTML cywir
(does dim wir angen gwneud hyn ar wefan UTF-8 ond mae'n gwneud
yn siwr fod pethau'n ymddangos yn iawn ar beiriannau hynafol).