Mae yno rai negeseuon ynghylch y jargon uchod o rai
blynyddoedd yn ôl, ond ni chynigiwyd ateb. Yr ystyr mae’n debyg yw prif ganolfan
gyda rhwydwaith o is-ganolfannau o’i chwmpas. Yn anffodus, mae “main
centre” yn ymddangos yn yr un frawddeg ar fwy nag un achlysur, ac yn
cyfeirio at syniad hollol wahanol i’r syniad “hub and spoke”!
Rwyf hyd yn hyn wedi defnyddio “both a sbôcs”, yn y gobaith o gael
ysbrydoliaeth wrth fynd ymlaen. Rwyf bellach wedi gorffen ac ni ddaeth ysbrydoliaeth!!
Beth ydych chi wedi ei wneud yn y gorffennol? Mae’n
amlwg nad oes llawer ohonoch wedi defnyddio “both a sbocsen” na “both
a sbôcs” gan nad oes llawer o gyfeiriadau atynt ar Gwgl. H.y. help!!!
John