Dwi’n meddwl mai’r syniad yw bod rhywun sy’n gweithio i gwmni neu gorff penodol yn cael ei symud i swydd arall o fewn yr un cwmni / corff ac felly bod angen penodi rhywun yn lle’r unigolyn hwnnw i gyflawni’r swydd yr oedd yn ei dal cyn iddo gael ei symud i swydd arall. Dyna a awgrymir yma, beth bynnag: http://www.somerset.gov.uk/personnel/DAS/details.asp?rec_no=9171 “Ôl-lenwi” y mae GyrA yn ei gynnig yng nghyd-destun adeiladu a thirlunio. Tybed beth yw barn eraill ynglŷn â’i ddefnyddio yn y cyd-destun sydd dan sylw – hynny yw, penodi rhywun i’r swydd ar ôl i’r unigolyn arall gael ei symud. (???????? ) Garmon Garmon Davies Ewrolingo +44 (0) 1656 668603 <http://www.ewrolingo.co.uk> www.ewrolingo.co.uk _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Pennawd Cyf. Sent: 14 July 2006 13:01 To: [log in to unmask] Subject: backfill posts Does dim syniad gen i beth mae hyn yn ei feddwl yn Saesneg, hyd yn oed. Un enghraifft yw ymadrodd megis "..where staff are appointed on a temporary basis to fill or backfill posts". Oes rhywun yn gwybod beth yw ystyr y gair Saesneg? Byddai gair Cymraeg amdano hyd yn oed yn well! Claire