Da
iawn, diolch, ond ife cysylltiad neu fynediad *drwy gyfrwng* y packets sy yma
wedyn te?
Hynny
yw, y data neu'r rhaglenni teledu neu'r gwefannau etc yw diddordeb y
defnyddiwr: cyrchu'r rheiny dros y ffôn yw'r nod. Os felly, beth am
"mynediad [i'r rhyngrwyd] drwy becynnau lawrlwytho cyflym
iawn"?
Neu
ydy'r gwahaniaeth rhwng "downlink" a "download" yn bwysig, tybed? Gallwn
ddychmygu bod "download" yn caniatau ichi fachu ffeil - clip o ffilm neu
raglen efallai - i'w chadw, ond bod "downlink" yn caniatau i'r clip gael ei weld
heb ganiatáu ichi ei gadw. Ydy 'lawrgysylltu' yn y cynnig gan Huw yn nes
ati?
-----Original Message-----
From:
Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Muiris Mag
Ualghairg
Sent: 04 July 2006 11:56
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: high-speed downlink
packet access (HSDPA)
Dw i ddim am gynnig cyfieithiad ond esboniad. Nid pecyn 'fel pack
of' sydd yma ond 'packets' sef y ffordd y mae data yn cael ei rannu a'i anfon
o gwmpas y rhyngrwyd. Mae'r data'n cael ei thorri i fyny yn filoedd o
ddarnau (pecynnau) ac mae'r rhain yn cael eu hanfon ymlaen at y porwr cyn cael
eu rhoi yn ol at ei gilydd. Felly nid 'pecyn mynediad' yw ond 'mynediad
at becynnau' efallai byddai rhywbeth ar lun
'mynediad at becynnau llawrlwytho cyflym iawn'
'mynediadau at lawrlwytho pecynnau cyflym iawn'
Ew, mae'n anodd cyfieithu hwn!
Muiris
On 04/07/06, Huw
Tegid <[log in to unmask]>
wrote:
Chlywais
i ddim sôn am fersiwn Gymraeg hyd yn hyn, ond gallwn
gynnig
Byddwn yn croesawu unrhyw welliannau - a fyddai 'pecyn
mynediad lawr-gysylltu cyflym iawn' yn nes ati, er enghraifft?
Gwn
hefyd mai 'llwytho i lawr' yn hytrach na 'lawrlwytho' sy'n cael ei
gymeradwyo erbyn hyn wrth sôn am 'to download', felly byddwn yn ddiolchgar
pe bai rhywun yn gallu cynnig rhywbeth gwell na lawr-gysylltu.
Cofion
gorau,
Huw
-----Original Message-----
From: Discussion of
Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]
] On Behalf Of David Bullock
Sent: 04 July 2006 08:31
To: [log in to unmask]
Subject:
high-speed downlink packet access (HSDPA)
"T-Mobile intends to take
on UK broadband operators by using its mobile network to offer internet
access over a new 3G system called HSDPA (high- speed downlink packet
access) at speeds equivalent to fixed-line broadband, dispensing with the
need for a fixed line in the home."
Felly, ffordd newydd i gysylltu
â'r rhyngrwyd drwy ddefnyddio ffôn symudol yn lle defnyddio llinell ffôn
ddaearol sydd yma, mae'n debyg.
Oes rhywun arall wedi dod ar draws
term, neu wedi cynnig term?
--
No virus found in this incoming
message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus
Database: 268.9.8/381 - Release Date: 03/07/2006
--
No virus
found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version:
7.1.394 / Virus Database: 268.9.8/381 - Release Date:
03/07/2006