Cytuno'n llwyr.

On 06/07/06, Berwyn Jones <[log in to unmask]> wrote:
Cwestiwn a gododd yn ddiweddar yw:
 
Beth ydy confensiwn cyfieithu o ran enwi dogfennau nad ydynt ar gael yn y Gymraeg, a dyfynnu ohonynt?  Os nad ydy dogfen ar gael yn y Gymraeg, a ddylid cyfeirio ati wrth ei henw Saesneg mewn dogfen Gymraeg, ac os oes dyfyniad ohoni, a ddylid cyfieithu hwnnw?
 
Fy ateb oedd:
 
Os nad oes cyfieithiad Cymraeg o ddogfen, byddwn i bob amser yn cyfeirio ati wrth ei theitl Saesneg. Byddwn i hefyd yn cadw pob dyfyniad ohoni yn Saesneg oni bai:
 
1. bod modd (a'i bod yn well) ei droi'n ddyfyniad anuniongyrchol, e.e. 'barn Rhiannon Ellis oedd mai .../bod .../y(r) ...' neu 'Honnoddd/Dywedodd/Maentumiodd (ac ati) Rhiannon Ellis ...'/'Ys dywedodd Rhiannon Ellis, ...' neu ryw ymadrodd tebyg - gan gyfleu'r ystyr yn Gymraeg ar ôl hynny; neu
 
2. i'r cleient ofyn yn benodol am gyfieithiad ohono. Os gwnaeth, gellir rhoi '(trosiad o'r Report of the Committee on Parliamentary Privileges, Mehefin 2006, td. 16)' ar ddiwedd y cyfieithiad/trosiad o'r dyfyniad. Cyfrifoldeb y cleient, wedyn, fydd unrhyw gŵyn gan yr awdur/cyhoeddwr am drosi heb ganiatâd.
 
Ydy aelodau'r cylch yn cytuno?
 
Berwyn