Roeddwn i'n ystyried defnyddio 'mynediad' a chymryd y byddai hwnnw'n cwmpasu'r ddau air Saesneg ond mae'n amlwg imi bod 'entry' yn golygu 'mynd i mewn i'r clwb' ond dw i ddim yn siwr beth yw ystyr 'access' yn y cyd-destun yma - ai mynd at yr adeilad (hynny yw hongian o gwmpas y tu allan yn gwerthu cyffuriau) neu'n golygu rhywbeth arall... wrth gwrs gall fod, fel y dywedaist ti, yn fater o'r tueddiad i orfod dweud yr un peth mewn ddwy ffordd.

 
On 17/07/06, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:
Nid brawddeg mohono!  A oes modd cael cymaint o cefndir a chyd-destun ag sy'n bosibl?  Cymeraf fod "supervision" yn cyd-fynd ag "entry" *ac* "access", ond efallai nad yw e ddim.  Ydy "entry" yn golygu mynd i mewn i'r eiddo ac "access" yn golygu "medru cyrradd at"?  Beth yw pwynt y ddau air yn y Saesneg?  Ac os nac oes gwahaniaeth, a oes rhaid defnyddio dau air yn Gymraeg? 
 
Cofiaf pan oeddwn i'n blentyn, cyn imi ddysgu bod barddoniaeth Hebraeg yn hoffi dweud yr un peth ddwywaith, yn clywed bod [y Meseia, dw i'n meddwl] yn dod "riding on an ass, and upon a colt, the foal of an ass".  Dychmygais fod yr Iesu'n 'marchogaeth' gan eistedd ar yr asen wisg ei ochr gyda'i draed ar yr ebol.
 
Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" onclick="return top.js.OpenExtLink(window,event,this)" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Muiris Mag Ualghairg
To: [log in to unmask]" onclick="return top.js.OpenExtLink(window,event,this)" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Monday, July 17, 2006 8:17 PM
Subject: entry and access

 
Y frawddeg yw:
 
supervision of entry and access to the premises
 
Diolch
Muiris


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.10.1/389 - Release Date: 14/07/2006