Dim ond arferiad orgraffyddol - anghywir, debyg iawn! Mary _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eldred Bet Sent: 04 July 2006 11:29 To: [log in to unmask] Subject: ATB: Gwyddil Diolch Mary. Ai ffurf arall ar Gwyddyl felly yw Gwyddil? Bet _____ Oddi wrth/From: Mary Jones [mailto:[log in to unmask]] Anfonwyd/Sent: 04 July 2006 10:15 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: Gwyddil Me Geiriadur y Brifysgol yn dweud yn bendant mai lluosog Gwyddel yw Gwyddyl. Mae yna nifer o ffermydd (cynnar iawn) yn ardal y Ferwig yn ne Ceredigion yn cynnwys yr elfen, e.e. Heolgwyddyl, ac ychydig dros y ffin yn Sir Benfro mae Trewyddel (Moylegrove i bobol ddierth!) Mae ambell enw arall yn lleol yn awgrymu bod 'Gwyddyl' hefyd yn ffurf unigol, ac mae hen gysylltiad rhwng yr arfordir yma ac Iwerddon ers oes y Seintiau. Mary _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eldred Bet Sent: 04 July 2006 10:02 To: [log in to unmask] Subject: Gwyddil Bore da bawb, A oes rhywun yn gwybod beth yw tarddiad/ystir y gair 'Gwyddil'? A yw'n tarddu o 'Gwyddel'? Mae sawl enghraifft ar gwgl o enwau llefydd yn cynnwys yr enw e.e. fferm yng Nghwm Tawe - Twll-y-Gwyddil (Cefn gwlad), enw afon (Llanfihangel-ar-arth), a llawer mwy Diolch ymlaen llaw am unrhyw oleuni ar y pwnc. Bet