Print

Print


Os ydi'r cyd-destun yn caniatáu llacio'r rheolau gramadegol, beth am 'droog' ar gyfer 'bad' - gweler enw'r band 'Genod Droog', er enghraifft, sy'n cyfleu amwyster 'bad/drwg', ac E.P. gynharach y Super Furry Animals, "Moog Droog".

Mae'r ansoddair 'tew' yn cael ei ddefnyddio'n aml i ddangos parch hefyd - efallai y gallai hwn gyfleu 'heavy'.  (Os ydych chi'n darparu rhywbeth yn benodol ar gyfer Dyffryn Nantlle, mae 'Reu' yn cael ei ddefnyddio i gyfleu 'heavy'/'cool' hefyd.)

O ran "loser", mae yna nifer o eiriau dilornus a wnâi’r tro mae'n siwr, ond mae llawer ohonyn nhw'n dafodieithol.  Mae'n debyg y byddai 'Pwdryn' yn rhy ddeheuol i ni'r gogs. Efallai y gallech chi bori yn 'y Rhegiadur' am syniadau:

http://www.rhegiadur.com/index.php
 
(Well i mi atodi'r gwadiad nad ydi hwn yn rhan o Gronfa Genedlaethol y Bwrdd, er hynny!)
 
Efallai y byddai 'cachwr' yn rhy gryf ym marn rhai pobl, ond fe'i defnyddiwyd yn aml iawn yng nghyfresi cyntaf Porc Peis Bach, ac mae'r rheiny wedi cael eu hailddarlledu cyn 7 yr hwyr ar S4C digidol yn ddiweddar. 
 

Cofion gorau,

Huw
 
 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Pennawd Cyf.
Sent: 13 June 2006 15:41
To: [log in to unmask]
Subject: loser, heavy, bad

Mae'r rhain yn digwydd mewn darn i bobl ifanc.  Mae "loser", wrth gwrs, yn ddisgrifiad negyddol, a "heavy" a "bad" yn gadarnhaol.
 
Oes unrhyw eiriau cyfateb, cyfoes yn Gymraeg?
 
Claire

--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.8.3/362 - Release Date: 12/06/2006


--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.8.3/362 - Release Date: 12/06/2006