Print

Print


Gwell gwarchod rhag y gystrawen siwr o fod a cheisio sgwennu Cymraeg.

Gas gen i glywed pobl yn son am 'yr Afon Ddyfrdwy' hefyd, fel y clywais ar y
radio'n ddiweddar.

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Howard Huws
Sent: 07 June 2006 10:22
To: [log in to unmask]
Subject: "O" ymwthiol?


Gyfeillion,

A allwch chi fy nghynorthwyo, os gwelwch yn dda? Yn gynyddol, clywaf a 
darllenaf ddefnyddio'r gystrawen "Y (gweithred) o (berf)" wrth i gyfryngau 
neu swyddogion ddatgan neu ddisgrifio gweithred. Er enghraifft:

"Parhau y mae'r gwaith o drwsio'r ffordd..."
"Cynorthwyo gyda'r ddefod o gysegru'r deml"

yn hytrach na:

"Parhau y mae gwaith trwsio'r ffordd..."
"Cynorthwyo gyda defod cysegru'r deml".

Ai cystrawen Seisnig yw hon ("The (gweithred) of (berf)"), wedi ei 
chyfieithu'n llythrennol i'r Gymraeg? Hwyrach fod ei defnyddio yn hen arfer 
ymysg llenorion ("Yr Ymarfer o Dduwioldeb" (The Practice of Piety) Lewis 
Bayly 1630, e.e.), ond nid wyf wedi arfer ei chlywed ar lafar gwlad. 

Ai cywir ei defnyddio, waeth pa mor gyffredin y bo?