Dw i'n gweld mai 'diogelwch eiddo' a 'diogelwch personol' sy gan TermCymru. 
Mae 'na drafodaeth reit hir yn yr Archifau o dan 'security'.  Er bod TS yn dweud bod consensws o blaid 'diogeledd', dw i ddim yn siw^r ydy hynny'n wir, er mai dyna fydda i'n ei ddefnyddio gan amlaf er hwylustod.  Byddai'n dda cael pleidlais!
Glenys
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Geraint Løvgreen
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, June 27, 2006 9:29 AM
Subject: Re: safety / security

Yn bersonol dydw i ddim yn defnyddio 'diogeledd', ond weithiau mae modd defnyddio 'gwarchodaeth' am security.
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Huw Garan
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, June 27, 2006 1:26 AM
Subject: safety / security

Cododd Glenys bwynt sy' wedi bod yn troi yn fy mhen ers ychydig, sef 'diogelwch' a 'diogeledd'. 
 
Ydy 'diogeledd' bellach wedi ennill ei blwy' i gyfleu 'security' neu ydy 'diogelwch' yn well? 
 
Diolch
 
Hg