Mae 'na drafodaeth reit hir yn yr Archifau o dan 'security'. Er bod
TS yn dweud bod consensws o blaid 'diogeledd', dw i ddim yn siw^r ydy hynny'n
wir, er mai dyna fydda i'n ei ddefnyddio gan amlaf er hwylustod. Byddai'n
dda cael pleidlais!
----- Original Message -----
Sent: Tuesday, June 27, 2006 9:29
AM
Subject: Re: safety / security
Yn bersonol dydw i ddim yn defnyddio
'diogeledd', ond weithiau mae modd defnyddio 'gwarchodaeth' am
security.
----- Original Message -----
Sent: Tuesday, June 27, 2006 1:26
AM
Subject: safety / security
Cododd Glenys bwynt sy' wedi bod yn troi yn fy mhen ers ychydig, sef
'diogelwch' a 'diogeledd'.
Ydy 'diogeledd' bellach wedi ennill ei blwy' i gyfleu 'security'
neu ydy 'diogelwch' yn well?
Diolch
Hg