Dw i'n gweld mai 'diogelwch eiddo' a 'diogelwch personol' sy gan TermCymru. Mae 'na drafodaeth reit hir yn yr Archifau o dan 'security'. Er bod TS yn dweud bod consensws o blaid 'diogeledd', dw i ddim yn siw^r ydy hynny'n wir, er mai dyna fydda i'n ei ddefnyddio gan amlaf er hwylustod. Byddai'n dda cael pleidlais! Glenys ----- Original Message ----- From: Geraint Løvgreen To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, June 27, 2006 9:29 AM Subject: Re: safety / security Yn bersonol dydw i ddim yn defnyddio 'diogeledd', ond weithiau mae modd defnyddio 'gwarchodaeth' am security. ----- Original Message ----- From: Huw Garan To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, June 27, 2006 1:26 AM Subject: safety / security Cododd Glenys bwynt sy' wedi bod yn troi yn fy mhen ers ychydig, sef 'diogelwch' a 'diogeledd'. Ydy 'diogeledd' bellach wedi ennill ei blwy' i gyfleu 'security' neu ydy 'diogelwch' yn well? Diolch Hg