Print

Print


Wn i ddim a fydd 'na neb o gwmpas ar brynhawn dydd Gwener, wythnos Eisteddfod yr Urdd, ond gwelaf fod Maig wedi cyfrannu ddoe, felly efallai bod rhywun o gwmpas sy'n gwybod rhywbeth am y termau hyn.  Help, os gwelwch yn dda!  Dim ond taflen fach yw hon, ond mae'n cymryd llawer iawn o f'amser.

Y Cymhwyster "First Aid at Work" - Cymorth Cyntaf yn y Gwaith/yn y Gweithle? O chwilio ar safle'r HSE (Health and Safety Executive), nid oes unrhyw gyfeiriad at "Cymorth Cyntaf yn y Gwaith" a dim ond un at "cymorth cyntaf yn y gweithle" (llythrennau bach - nid cyfeiriad at y cymhwyster). O chwilio am "at Work" 'rwy'n dechrau cael yr argraff mai "Yn y Gwaith" a ddefnyddir gan yr HSE ar gyfer y Ddeddf, ond bod "yn y gweithle" wedi datblygu at iws bob dydd. Mae safleoedd eraill yn defnyddio'r ddau derm ar gyfer y cymhwyster, ond mae mwy o enghreifftiau o "yn y Gweithle" nag o "yn y Gwaith". A oes 'na unrhyw un sy'n gwybod pa ffordd y mae'r gwynt y chwythu? 

Appointed Persons - "person" sydd gan yr HSE, ond dim ond yn yr unigol. Pennawd yw hwn, felly ni allaf osgoi'r lluosog. Mae TermCymru yn amrywio'r hyn sydd ganddo ar gyfer "persons" o "personau" i "bodau" i "pobl" - unrhyw wrthwynebiad i ddefnyddio "Pobl Penodedig"? 

ELSE approval number - cyn imi wneud ffwl ohonof i fy hun a gofyn i'r cwsmer ai gwall teipio yw hwn ar gyfer "HSE approval number", a yw unrhyw un wedi clywed am "ELSE? 

AED (=automated external defibrillator) - cymeraf nad oes enw Cymraeg. Efallai rhoddaf "AED (deffibrilwr allanol awtomataidd)" y tro cyntaf, neu efallai ddim, gan fod diffyg lle. Sylwaf fod sawl safle yn cyfeirio at "AED defibrillator"! 

CPR (=cardiopulmonary resuscitation) - yr un egwyddor? 

Infection Control - Rheoli Haint/Rheoli Heintiad? - Mae'r ddau ar gael ar y we. Byddwn i wedi meddwl bod yr ail yn nes ati?

Llawer o ddiolch,

Ann