Gwall teipio, mae'n siwr gen i, yw "pan yr oedd" yn y neges isod. Mae un neu ddau wedi bod yn sôn yn ddiweddar - mewn negeseuon y tu allan i'r cylch - am wallau mewn negeseuon ar W-T-C, a dweud ei bod yn anodd anfon cywiriad rhag ofn i hwnnw gael ei gamddehongli. Mae'n amlwg i mi fod cryn dipyn o frathu tafod wedi bod wrth i bobl weld pethau sydd iddyn nhw yn wallau ond i eraill yn dderbyniol. Eu hannog nhw i anfon eu cywiriadau wnes i, gan gredu y dylai tynnu sylw at lithriadau bach fel hyn helpu pawb i godi safon eu negeseuon a'u gwaith. Yn yr ysbryd yna felly... "Pan oedd" sy'n gywir. Does dim angen "y/yr" ar ôl "pan", "os", "tra". Tybed a oes rhywun yn cofio beth a ddefnyddid yn Gymraeg ar gyfer y Saesneg 'detached' yn achos yr hen 'Flintshire (detached)'? Rwy'n cyfieithu map o'r hen siroedd cyn 1974, pan yr oedd ardal Maelor Saesneg yn cael ei gweinyddu gan Sir y Fflint er nad oedd yn rhan o 'dir mawr' y sir honno. Mae'r map yn cyfeirio at yr ardal hon fel 'Flintshire (detached)'. Mae gen i ail fap i'w gyfieithu hefyd, sef map o Ewrop fodern, sydd eto'n cyfeirio at ardal o Rwsia ger Lithwania nad ydyw yn rhan o 'dir mawr' Rwsia. Mae allwedd y map hwnnw yn cyfeirio at 'Russia (detached)'. Unrhyw syniadau am derm Cymraeg am 'detached' yn yr ystyr hwn?