Diolch Ann - ond dwi'n dal ddim yn gweld y gwahaniaeth rhwng hynny a chadw apwyntiad - y nifer sy'n mynd i gael eu sgrinio sy'n cyfri - felly maen nhw'n cadw'u hapwyntiadau - neu ydy'r haul yn mynd i mhen i?!
 
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Ann Corkett
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Saturday, June 17, 2006 8:23 PM
Subject: Re: Takeup

Y rhai sy'n manteisio ar y cyfle?
Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Catrin Alun
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Saturday, June 17, 2006 7:50 PM
Subject: Re: Takeup

Ond onid yw mynd i gael eu sgrinio'n golygu eu bod yn cadw'r apwyntiad?  Sdim ots sawl apwyntiad sy'n cael ei gynnig - ond bod un yn cael ei dderbyn?
 
Beth fyddai'r cyfieithiad am 'takeup' felly?
 
Catrin
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Neil Shadrach
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Saturday, June 17, 2006 7:46 PM
Subject: Re: Takeup

Dyma'r esboniad ces i. 'Takeup' yw'r canran o'r rheini sy'n cael gwahoddiad sy'n mynd ymlaen i gael eu sgrinio. Mewn ffordd dyw e ddim byd i wneud a chadw apwyntiadau. Mae'n bosib bod mwy nag un apwyntiad yn cael ei gynnig i bob un sy'n derbyn gwahoddiad.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Catrin Alun
Sent: 17 June 2006 12:43
To: [log in to unmask]
Subject: [WELSH-TERMAU-CYMRAEG] Takeup

Tybed oes 'na rywun trist arall sy'n gweithio heddiw ar ddiwrnod mor fendigedig?! 
 
Y gair 'takeup' 'ma! Cyd-destun yw menywod sy'n cadw eu hapwyntiadau i gael sgrinio'r fron - a dyna dwi wedi'i ddefnyddio (cadw apwyntiadau).  Ond roedd y client yn awgrymu nad yw cadw apwyntiadau a takeup yr un fath (er nad oedd hi'n gallu esbonio'r gwahaniaeth mewn gwirionedd - gan gyfaddef mai nifer y bob sy'n cadw'r apwyntiad ydy'r 'takeup'!!)
 
Oes gan rywun unrhyw sylwadau ar hyn?  Dwi'n ddigon hapus i gadw at fy nehongliad, ond hefyd yn barod i gael fy nghywiro os oes gair/term agosach at ei hystyr hi (beth bynnag ydy hwnnw!) ar gael.
 
Diolch
Catrin

--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.0/368 - Release Date: 16/06/2006


--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.0/368 - Release Date: 16/06/2006


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.8.3/362 - Release Date: 12/06/2006


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.8.4/364 - Release Date: 14/06/2006


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.8.3/362 - Release Date: 12/06/2006