Cytuno'n llwyr, Magi. Yr ydw i yn meddwl bod yna elfen o 'ecsploetio plant ar-lein' yn y peth: hynny yw, stafelloedd sgwrsio lle mae dynion yn smalio bod yn bobl ifanc, etc. Ond dim gwybodaeth ynghylch a yw gwaith y Ganolfan i gyd ar-lein..... O'r hyn welai i ar y newyddion, mae yna ganolfan neu swyddfa go-iawn, hefyd.
 
Fasa well gin i fod allan yn yr haul o beth wmbreth....!

[log in to unmask] wrote:
Enw gwirion yn Saesneg ynte! Dwi'n meddwl y byddai'n rhaid i mi ofyn iddyn nhw eto. Ai Child Exploitation and Protection On-Line Centre mae nhw'n ei olygu - a fyddai'n gwneud mwy o synnwyr i mi.... - ydi holl waith y Ganolfan Ar-Lein yn unig, neu ddarn ohono? ? Os felly Canolfan Ar-Lein i Amddiffyn Plant rhag eu Camddefnyddio fyddwn i'n ei ddweud. Mae camddefnydd yn cynnwys cam-drin.....Nid wyf yn hoff o gwbl o'r gair escbloetio ma - mae'n anodd ei ddweud i ddechrau....
Af yn ol i fy narn gwaith tipyn haws, diolch byth!
magi
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">MEG ELIS
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, June 01, 2006 10:22 AM
Subject: Child Exploitation and On-Line Protection Centre

Sef y sefydliad newydd i amddiffyn plant: mor newydd fel nad ydi'r term wedi cyrraedd TC eto!  Dwi'n trio Canolfan Amddiffyn Plant Rhag Ecsploetio ac Ar-Lein, sydd ddim y peth mwya llithrig ar dafod neb,: unrhyw awgrymiadau/gwelliannau?
 
Meg