Print

Print


Dwi'n meddwl ella mai 'Aubrietia' ydyn nhw, neu o bosib fwy nag un gwahanol 
rywogaeth.

Hwyl!
Bethan
01248 723510
07713 862792

----- Original Message ----- 
From: "Howard Huws" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, June 07, 2006 2:21 PM
Subject: Y Gynfas Las


(Gan ymddiheuro am y diffyg acenion crymion)

Y mae gwraig o Fon wedi rhoi gwybod imi am blanhigyn a dyf ar fagwyrydd
yno, a elwir "y gynfas las". Y mae'r blodau'n las eu lliw, i'w gweld ar yr
adeg yma o'r flwyddyn, ac yn gymaint eu nifer ag i lwyr orchuddio'r dail.
Nid oes arno angen fawr ddim pridd, ac ymleda'n eang ac yn gyflym. Y mae
math cyffelyb sydd a blodau gwynion, a elwir "y gynfas wen".

Dywedwyd wrthyf nad yw'r blodyn ar ffurf cloch, felly hwyrach nad
Campanulata mohono. A yw unrhyw un yn gwybod am enwau Cymraeg eraill arno,
neu'r enw Lladin?