Mae 'na hysbyseb ar y teledu ar hyn o bryd am gyfres i "ddathlu'r arfordir". Mae hyn yn swnio braidd yn chwithig i mi. Fe wnes i waith i gwsmer ym myd y celfyddydau yn ddiweddar a defnyddio rhywbeth fel "clodfori" neu "mawrygu" i gyfieithu "celebrate" mewn cyd-destun tebyg ond gofynnwyd i mi ei newid i "dathlu". Ydi hyn yn dod yn ddefnydd derbyniol o'r gair? Yn ôl Geiriadur yr Academi "celebrate (= commemorate): dathlu". Hwyl Siân