"mission creep" ar ei ben ei hun fel pennawd mae'n rhaid i mi ei gyfieithu. Mae'r paragraff o dan y pennawd yn sôn am beryglon codi llwyth o syniadau newydd a pheidio â chanolbwyntio ar brif flaenoriaethau'r sefydliad wrth fynd ymlaen â'r gwaith. Fel mae'n digwydd, nid yw'r ymadrodd yn digwydd yn y paragraff, beth bynnag. Rhois i ddiffiniad o'r we er mwyn ceisio esbonio'r ymadrodd. Sylwadau cyffredinol oedd gen i yn gyntaf wrth sôn am y gair "creep" yn Saesneg. Dwi'n dal i gredu bod y gair yn un hwylus fel trosiad am newid sy'n digwydd yn raddol dros amser, ac mae'n siwr mai dyna pam mae siaradwyr Saesneg yn ei ddefnyddio mewn cymaint o ymadroddion. Mae'n siwr mai'r peth gorau i mi ei wneud yw defnyddio ymadrodd cyfarwydd yn bennawd i grynhoi'r sefyllfa y sonnir amdani. "Gormod o heyrn yn y tân" efallai, er nad yw hwnnw'n cyfleu'r ffordd mae'r pethau 'ma'n codi'n raddol dros amser. Claire