Dwi ddim yn meddwl bod y diffiniad yn rhan o'r hyn mae Claire yn trio'i gyfieithu! Onid wedi dod o hyd i hwnnw mae hi i'n helpu ni i wneud awgrymiadau? Os felly roedd dy gynnig cynta di'n llawer gwell na'r ail, Berwyn! ----- Original Message ----- From: Berwyn Jones To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, May 17, 2006 12:55 PM Subject: Re: mission creep Dylwn i fod wedi darllen dy neges yn fanylach, Claire! Y broblem wrth gyfieithu ymadroddion fel 'mission creep' yw bod y cyfieithiad yn (ceisio) cyfleu'r broses yn glir (gan ddileu'r angen am ddiffiniad ohoni ...). Falle y gellid dweud rhywbeth fel 'ymdreiglad cenhadaeth (neu 'cenadaethau'?)' fel bod modd cynnig diffiniad ohono nad yw'n gwneud dim ond ailadrodd y cyfieithiad. Y peth callaf wedyn yw osgoi defnyddio 'ymdreiglad cenhadaeth' o hynny ymlaen, os gelli di! Berwyn ----- Original Message ----- From: Pennawd Cyf. To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, May 17, 2006 11:11 AM Subject: mission creep Mae "creep" yn air sy'n codi tipyn yn Saesneg, ac yn dda iawn am gyfleu'r syniad o bethau sy'n newid neu'n lledu'n raddol gydag amser, e.e. "creeping privatisation of the health service". Diffiniad o'r uchod: "The process by which a mission's methods and goals change gradually over time." A all rhywun awgrymu ymadrodd cryno, yn hytrach na 'mod i'n cyfieithu'r diffiniad cyfan? Claire ---------------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.392 / Virus Database: 268.6.0/341 - Release Date: 16/05/2006