Byddai; dyna'r ystyr. Gallwn hepgor yr 'ymgeiswyr/disgyblion' a byddai'n dal yn glir. Mi wna i ei drafod â'r cwsmer. Diolch yn fawr Glenys ----- Original Message ----- From: Berwyn Jones To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, May 16, 2006 12:33 PM Subject: Re: allow follow through A fyddai cyfarwyddyd i 'beidio â chosbi ymgeiswyr/disgyblion am wallau sy'n deillio o wall blaenorol' yn cyfleu'r ystyr yn gywir? Berwyn ----- Original Message ----- From: GLENYS ROBERTS To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, May 16, 2006 11:32 AM Subject: allow follow through Cyfarwyddyd i aseswyr papurau Rhifedd Oedolion. Dyma'r cysyniad: Os yw'r ymgeisydd wedi cael rhan gyntaf swm yn anghywir, e.e. wedi rhoi 7 yn lle 6, rhaid caniatáu defnyddio'r 7 yn rhan nesaf y broblem. H.y. rhag cosbi'r un gwall fwy nag unwaith. Wedi ystyried rhoi 'peidiwch â chosbi'r un gwall fwy nag unwaith' ond dyw hynny ddim yn ddigon manwl-gywir ei ystyr. Er bod 'caniatáu dilyn trwodd' yn swnio braidd 'n ych a fi, efallai mai dyna fyddai hawsaf i'r aseswyr ei ddeall (achos mi fyddan nhw'n gweld ei fod yn cyfateb i 'allow follow through'). Mmm, egwyddor simsan i gyfieithydd? Dw i'n hyderus y bydd gan rywun gynnig gwell! Diolch yn fawr ymlaen llaw os oes. Glenys ---------------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.392 / Virus Database: 268.5.6/340 - Release Date: 15/05/2006