Mae llawer o gyfeiriadau at hyn ar gwgyl - a'r unig gyfieithiad o leverage yn TermCymru yw trosoledd.  Mae 74 cyfeiriad at y gair hwnnw ar gwgyl, yn cynnwys y cyswllt amheus isod
 
http://cy.wiktionary.org/wiki/Hafan sy'n dweud y canlynol am y gair!!
 

"Yn golygu trosoledd

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Jump to: navigation, search

Yr ydych wedi dilyn cysylltiad i tudalen sydd ddim wedi gael eu creu eto.
I creuo'r tudalen, dechreuwch teipio yn y bocs isaf (gwelwch y tudalen help am mwy o hysbys).
Os ydych yma trwy camgymeriad, cliciwch eich botwm nôl"

Mae'n siwr y byddai creuo'r tudalen yn defnyddiol thros pen, ac yn gynnig lawer o hysbys i trueiniad fel fi sy'n anhapus trybeilig â'r air drosoledd.  Dywed GPC (nad yw eto wedi cynnwys y gair creuo - diolch i'r drefn!!!:-) y canlynol.

Trosoledd:  Gweithrediad neu rym lifer, mantais fecanyddol a geir o ddefnyddio lifer, hefyd yn ffig.: leverage

O edrych yn y Shorter Oxford English, mae'r cyfeiriadau at leverage fwy neu lai yn wrthrych o'r hyn a welir yn GPC, oni bai nad yw'n cynnwys fig.: trosoledd ar y diwedd.  

Er hyn, mae 21,000,000 o gyfeiriadau at leverage funding ar gwgyl, felly mae'n rhaid bod sail i'r gair ond be ar y ddaear ydi'r sail honno? O roi glosary definition ar ôl y ddau air dan sylw yn gwgyl, cefais ddiffiniadau sy'n awgrymu fod y gair leverage yn ymwneud â benthyg arian, ond bod cwnmi sy'n "fully leveraged" yn cael trafferth benthyg mwy o arain.  Mae'n gas gen i gyfieithu unrhyw beth arainnol!!!!! 

Dyma'r term yn ei gyd-destun:

"Evidence of recent success in this field is also referred to in this document and this proposal offers the opportunity to maximise leverage funding from the corporate sector"

Rwy'n amau fod awdur fy nogfen wedi defnyddio'r gair anghywir gan nad oes son am fenthyg yn yr holl ddogfen.  Unrhyw sylwadau?

John!!!




Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu.  Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.

Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon.  Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system.   Gall defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol.  Diolch i chi am eich cydweithrediad.   

Heddlu Gogledd Cymru

Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication.  North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.

This communication is intended for the addressee(s) only.  Please notify the sender if received in error and erase from your system.  Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this document may not be official policy.  Thank you for you co-operation.

North Wales Police