Rwyf wedi dal swyddi o’r enw ‘information officer’ ac ‘intelligence analyst’ yn eu tro, ac mae ‘gwybodaeth’ a ‘hysbysrwydd’ yn swnio’n eitha teg i mi. (Gellid defnyddio cudd-wybodaeth hefyd am ‘intelligence’). Ond – beth am ‘knowledge’ – nid yw hwnnw’r un peth ag ‘information’, ac eto 'gwybodaeth' a ddefnyddir am y ddau fel arfer. Efallai y byddwn i’n cynnig: Data = data. Information = gwybodaeth (sef data wedi eu casglu a’i didoli). Knowledge = dealltwriaeth (sef gwybodaeth sydd wedi ei drafod ac y canfuwyd ystyr ynddo). Intelligence = cudd-wybodaeth neu hysbysrwydd (sef gwybodaeth neu ffrwyth ymchwil, at bwrpas penodol, a ellid ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau).