Dwi'n cytuno'n llwyr Magi - mae'r Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd yn llawer gwell, er fod hwnnw'n dal yn eitha llond ceg (fel y Saesneg!).
 
Catrin

[log in to unmask] wrote:
Enw'r Asiantaeth gymharol newydd hon yn ôl ei logo hi ei hun yw Asiantaeth Genedlaethol Arweiniad ac Arloesoldeb dros Ofal Iechyd.
Rwyf am awgrymu yn gwrtais (peidiwch â chwerthin - can do cwrtais, chwedl un o'm merched!) i'r bobl berthnasol na wnaiff erthyl o deitl o'r fath mo'r tro ac na fydd yn llithro oddi ar dafod unrhyw un, byth! Ar wahân i'r ffaith nad oes y fath air ag arloesoldeb yn bod cyn belled ag y gwn i, ac ni ddylai gael ei fathu yn fy marn i, helpwch fi i egluro i'r rhain pam nad yw'r teitl yn Gymraeg o gwbl - nid yw fy ngramadeg ayyb i yn ddigon da i egluro'n gryno!
Roeddwn i am awgrymu Asiantaeth Genedlaethol [ar gyfer] Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd ond byddwn yn croesawu syniadau gwell......
Y Cynulliad sydd wedi sefydlu'r Asiantaeth ac ni allaf gredu fod y teitl wedi cael bendith y gwasanaeth cyfieithu, gyda phob dyledus barch.......
Be da chi'n feddwl?
magi
 
Ffôn / Tel: 01938 500286