Fel un a fu'n byw yn yr ardal am ugain mlynedd ac yn pasio heibio
Loggerheads a Thafarngelyn bob dydd ar fy ffordd i'm gwaith bryd hynny,
alla'i ddweud na chlywais neb erioed yn rhoi enw arall ar Loggerheads
heblaw Loggerheads. Dim ond y felin a'r dafarn sydd yn y lle yn wir, ac fe
ddaw'r enw o enw'r dafarn - " the We Three Loggerheads" - fe baentiwyd yr arwydd
enwog gan yr arlunydd Richard Wilson, mae'n debyg i dalu dyledion diod.
Mae'r arwydd yn dangos ddau benrwdyn eitha dwl yr olwg - a'r jôc
weledol wrth gwrs wrth i chi ofyn " Lle mae'r trydydd?" ydi'r ateb a ddaw, sef-
"Yn syllu arno fo!"
Alwyn Evans
76 Chandlers
Way
Penarth
Bro Morgannwg
CF 64 1SP
++ 44 (0)2920704301
mob ++ 44
(0)7968 649434
[log in to unmask]