Dw i'n meddwl y defnyddiaf "llu".  Rhywsut mae "llwyth" yn swnio braidd yn anffurfiol ar gyfer cofnodion, neu ydy hyn oherwydd fy mod i'n cyfieithu'n ol i'r Saesneg yn fy mhen - "a load of"?
 
Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, May 04, 2006 8:56 AM
Subject: Re: raft

Oni fyddai llu / nifer / sawl / llawer  yn ddigonol? Betia i gan punt nad yw'r raft bob amser yn golygu llwyth unffurf na hyd yn oed perthynol i'w gilydd, o reidrwydd! Dim ond ffasiwn newydd yw hwn eto - o'r un farn â Meg!! Dim o'i le hefo llwyth, wrth gwrs
Ffôn / Tel: 01938 500286
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">MEG ELIS
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, May 03, 2006 5:00 PM
Subject: Re: raft

Dwi ddim yn meddwl bod y siaradwr yn gwybod, hanner yr amser. Y cyfan mae o'n olygu yw 'mwy nac un'/'llawer'/'toreth'/cyfres'.
 
Yn sinigaidd,
 
 
Meg

Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:
Os gwelwch yn dda, beth yw union ystyr (gan gymryd bod y siaradwr yn gwybod hynny) y gair "raft" mewn brawddeg megis: There was a raft of new international auditing standards which had impacted on the way it reported. 
 
Diolch,
 
Ann 


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.385 / Virus Database: 268.5.2/329 - Release Date: 02/05/06