Yng Ngeiriadur y Brifysgol dan lïo, mae'n dweud gweler "holïo".
 
Holïo = tynnu defaid allan o'r ddiadell, didoli, gwahanu... (tud. 1890)
 
Does dim gair am darddiad y gair chwaith.
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Puw, John
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, May 25, 2006 2:35 PM
Subject: Lïo

Sawl un sy’n gyfarwydd â’r gair “lïo” yng nghyd-destun didoli defaid (neu unrhyw gyd-destun a dweud y gwir)?  Roeddwn yn siarad gyda’m brawd ar y ffôn a gofynnais beth oedd yn ei wneud.  Dywedodd ei fod yn “lïo’r defaid”, a damiodd fi am ddrysu’r ci oherwydd imi ffonio ei ffôn symudol ar foment dyngedfennol!  Ond  gwnaeth y sgwrs i mi ddechrau meddwl (rhywbeth na fyddaf yn ei wneud yn or-aml!!!)  ynghylch tarddiad y gair.  Lïo glywais i’n cael ei arddel gan fy nheulu am y broses o rannu’r defaid ag ŵyn benyw oddi wrth y defaid ag ŵyn gwryw ar hyd fy oes, a hyd y gwn i dyma’r gair a ddefnyddir yn gyffredinol yn ardal Abergynolwyn / Afon Dysynni / De Meirionnydd.  Ond wrth chwilio (yn ofer) yn GyrA am “part-funding” funud yn ôl, ysgogwyd fy nghof gan gyfeiriad at “to part the sheep from the goats” – didoli a ddefnyddir wrth reswm, heb unrhyw son am lïo!!  Sori os yw hyn wedi deffro rhywun!!  Ond fedra i ddim maddau i chwilfrydedd.

 

Af yn ôl at fy ngwaith yn awr!

 

John




Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu.  Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.

Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon.  Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system.   Gall defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol.  Diolch i chi am eich cydweithrediad.   

Heddlu Gogledd Cymru

Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication.  North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.

This communication is intended for the addressee(s) only.  Please notify the sender if received in error and erase from your system.  Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this document may not be official policy.  Thank you for you co-operation.

North Wales Police