Rhoddais yr ymholiad ar maes-e hefyd lle mae amryw o bobl yn deall pethau fel hyn. Soniwyd mai "cylchwedd" sydd yn KDE (?) (am fod "cylch" yn cael ei ddefnyddio am "grŵp" yng nghyd-destun 'cylchoedd trafod' ar y we ac ati) ond roedd teimlad efallai nad oedd ystyr hwnnw'n amlwg. Awgrymwyd hefyd bod "grwpwedd" yn "edrych yn od" ac awgrymwyd y byddai "meddalwedd cydweithio" yn rhoi'r ystyr yn gliriach. Unrhyw syniadau eraill? Cofion Siân On 23 Mai 2006, at 01:37, H.K.Smith wrote: > Rhesymegol! Rwyf innau wedi defnyddio, trwy gydweddiad, eiriau fel > 'rhanwedd' (shareware), rhyddwedd (freeware) a sbi-wedd (spyware). > Credaf fod cysylltnod yn hanfodol yn y gair olaf, er hwyluso'r > ynganiad, a hefyd i'w rannu yn y modd priodol (dim byd i'w wneud â > sbiwio!!!) > > Helen > > Ysgrifennodd Sian Roberts: >> Dyma un diffiniad: >> Groupware: Software designed to help teams or groups of people >> work together. Invariably includes e-mail >> Beth am "grwpwedd" trwy gydweddiad â "caledwedd" a "meddalwedd" ? > > > > -- > Helen Smith (Cyfieithydd/Translator) > Canolfan Bedwyr > [log in to unmask] > Ffôn/Tel: 01248 383253 (allanol/external) > est/ext 3253 (mewnol/internal) > > >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< > > > -- > Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, > gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig > gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y > neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar > unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, > rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a > gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i > hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn > Prifysgol Cymru, Bangor. Nid yw Prifysgol Cymru, Bangor yn gwarantu > bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu > 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn > nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract > rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa > Cyllid Prifysgol Cymru, Bangor. www.bangor.ac.uk > > This email and any attachments may contain confidential material and > is solely for the use of the intended recipient(s). If you have > received this email in error, please notify the sender immediately > and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you > must not use, retain or disclose any information contained in this > email. Any views or opinions are solely those of the sender and do > not necessarily represent those of the University of Wales, Bangor. > The University of Wales, Bangor does not guarantee that this email or > any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless > expressly stated in the body of the text of the email, this email is > not intended to form a binding contract - a list of authorised > signatories is available from the University of Wales, Bangor Finance > Office. www.bangor.ac.uk