Print

Print


Message
Ar lefel deddfwriaeth, mae'n rhaid gwahaniaethu rhwng tramgwydd (offence) a throsedd (crime), nid lleiaf am fod rhai tramgwyddau yn dramgwyddau troseddol a rhai yn dramgwyddau sifil.
 
Os tramgwydd yw offence, wedyn mae'n ddigon naturiol mai tramgwyddwr yw offender, gan gadw troseddwr a criminal yn bâr ar wahân. Mae'n dda bod TermCymru yn adlewyrchu'r gwahaniaeth.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Pennawd Cyf.
Sent: 05 April 2006 15:41
To: [log in to unmask]
Subject: Re: rehabilitation of offenders act

Mae arna i ofn mai "tramgwyddwyr" a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth.
 
Yng nghymal 7 d (ii) Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2002, "Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr" yw enw'r ddeddf.
 
Hefyd, gweler Rheoliadau Plant (Eu Hamddiffyn rhag Tramgwyddwyr) (Diwygio) Cymru) 2001, sef y rheoliadau Cymraeg sy'n cyfateb i The Children (Protection from Offenders) (Amendment) (Wales) Regulations 2001
 
Claire
 
 ----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Gorwel Roberts
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, April 05, 2006 2:51 PM
Subject: rehabilitation of offenders act

Arferwn gredu mai Deddf Ailsefydlu Troseddwyr oedd hon yn Gymraeg ond bellach gwelaf -
Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr ar Term Cymru.
 
Mae Term Cymru'n gret ond mae'n defnyddio termau anghyson weithiau. Pa un sy'n gywir.
 
Gorwel