MessageAr lefel deddfwriaeth, mae'n rhaid gwahaniaethu rhwng tramgwydd (offence) a throsedd (crime), nid lleiaf am fod rhai tramgwyddau yn dramgwyddau troseddol a rhai yn dramgwyddau sifil. Os tramgwydd yw offence, wedyn mae'n ddigon naturiol mai tramgwyddwr yw offender, gan gadw troseddwr a criminal yn bâr ar wahân. Mae'n dda bod TermCymru yn adlewyrchu'r gwahaniaeth. -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Pennawd Cyf. Sent: 05 April 2006 15:41 To: [log in to unmask] Subject: Re: rehabilitation of offenders act Mae arna i ofn mai "tramgwyddwyr" a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth. Yng nghymal 7 d (ii) Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2002, "Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr" yw enw'r ddeddf. Hefyd, gweler Rheoliadau Plant (Eu Hamddiffyn rhag Tramgwyddwyr) (Diwygio) Cymru) 2001, sef y rheoliadau Cymraeg sy'n cyfateb i The Children (Protection from Offenders) (Amendment) (Wales) Regulations 2001 Claire ----- Original Message ----- From: Gorwel Roberts To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, April 05, 2006 2:51 PM Subject: rehabilitation of offenders act Arferwn gredu mai Deddf Ailsefydlu Troseddwyr oedd hon yn Gymraeg ond bellach gwelaf - Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr ar Term Cymru. Mae Term Cymru'n gret ond mae'n defnyddio termau anghyson weithiau. Pa un sy'n gywir. Gorwel