Print

Print


O edrych ar fy nghopi o Eiriadur y Gyfraith (rhagflaenydd Geiriadur Newydd y Gyfraith), dyma weld 'mod i wedi ysgrifennu 'to uphold = ategu, cadarnhau' ar y copi. Wn i ddim pam na wnes i gopïo'r ddau gynnig yna i'm rhestr ...

Berwyn
  ----- Original Message ----- 
  From: David Bullock 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Monday, April 03, 2006 3:48 PM
  Subject: Re: uphold an appeal


  Offeryn Statudol 2004 Rhif 245 (Cy.24), sef Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2004, yw'r unig un y gallaf finnau i ei weld ar hyn o bryd lle mae 'uphold' ac 'appeal' a 'cadarnhau' ac 'apêl' wedi'u defnyddio gyda'i gilydd.

  Cyfreithiwr anghyson iawn fyddai wedi defnyddio gair heblaw 'cadarnhau' i gyfleu 'uphold' o flaen 'apêl' pan yw'r enghreifftiau o 'cadarnhau' = 'uphold' mor niferus mewn cyfuniad â 'penderfyniad' a 'gwaharddiad', a 'hysbysiad' hefyd. 

  (Mae lot o enghreiftiau o "apêl ei chadarnhau" ar gael drwy Google: rwy'n dyfalu mai 'uphold' fydd rhai o leiaf o'r rhain, ond dwy ddim wedi agor dogfennau a'u fersiynau Saesneg cyfatebol eto i brofi hyn un ffordd neu'r llall.)




    -----Original Message-----
    From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Pennawd Cyf.
    Sent: 03 April 2006 15:09
    To: [log in to unmask]
    Subject: Re: uphold an appeal


    Dwi wedi chwilio ar y wefan offerynnau cyfreithiol, ond alla i ddim cael hyd i'r un enghraifft o 'uphold an appeal' nag 'uphold the appeal' mewn rheoliadau sy'n bodoli hefyd yn y Gymraeg, dim ond "uphold the determination/disputed decision/exclusion".

    Fel dywedais i, ces i hyd i "cymeradwyo'r apêl", ond mewn canllawiau oedd hynny, nid rheoliadau.

    Felly o ran pa derm mae'r cyfreithwyr yn ei ddefnyddio, dwi ddim callach. 

    Claire
      ----- Original Message ----- 
      From: Berwyn Jones 
      To: [log in to unmask] 
      Sent: Monday, April 03, 2006 2:02 PM
      Subject: Re: uphold an appeal


      Yr hyn a'm synnodd i oedd nad yw Robyn Léwys wedi cynnig cyfieithiad o 'to uphold' yng Ngeiriadur Newydd y Gyfraith - ddim hyd yn oed o dan 'apêl'. I mi, dyw na 'cadarnhau' na 'cymeradwyo' yn gwbl foddhaol. Mae'r elfen o 'gymeradwyo', fel y dywed David, yn chwithig ond mae 'cadarnhau' yn awgrymu bod rhywun wedi cyflwyno tystiolaeth i gadarnhau'r apêl ... Wedi dweud hynny, rwy'n cymryd bod y Cynulliad wedi gofyn i gyfreithiwr am 'ddedfryd' ar y mater, a byddwn i'n ddigon bodlon derbyn mai 'cadarnhau' yw'r gair gorau.

      Berwyn
        ----- Original Message ----- 
        From: David Bullock 
        To: [log in to unmask] 
        Sent: Monday, April 03, 2006 1:00 PM
        Subject: Re: uphold an appeal


        Anaml y bydda i'n gweld angen gwella ar un o gynigion Berwyn, ond y tro yma mae'n well gen i dderbyn mai'r is-ddeddfwriaeth sydd agosa ati (ac anwybydder am y tro yr egwyddor y dylai geirfa deddfau ein gwlad gael ei dilyn beth bynnag, oni bai bod gwall amlwg wedi'i wneud).

        Dylai llys, neu banel apelau neu beth bynnag, fod yn ddiduedd. Ydw i'n iawn i feddwl, felly, na ddylai llys gael ei weld yn "cymeradwyo" dim byd, am fod y didueddwch yn mynd i'r gwellt wedyn? 
          -----Original Message-----
          From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Pennawd Cyf.
          Sent: 03 April 2006 10:24
          To: [log in to unmask]
          Subject: uphold an appeal


          Dwi bellach wedi dod o hyd i hwn mewn dogfen gan y Cynulliad ar y we a hefyd yng ngeirfa Berwyn, sef "cymeradwyo apêl".

          Edrychais i yng ngeirfa Berwyn cyn holi ond rywsut methais i'r cofnod.  Eisiau profi'n llygaid eto, mae'n amlwg.

          Claire


------------------------------------------------------------------------


        No virus found in this incoming message.
        Checked by AVG Free Edition.
        Version: 7.1.385 / Virus Database: 268.3.4/299 - Release Date: 31/03/2006



------------------------------------------------------------------------------


  No virus found in this incoming message.
  Checked by AVG Free Edition.
  Version: 7.1.385 / Virus Database: 268.3.4/299 - Release Date: 31/03/2006