Mae'n rhaid cyfadde nad oeddwn i'n llwyr ddeall pam y byddai dyn yn cymryd mai benywaidd yw Abertawe - neu enw unrhyw ddinas arall o ran hynny. Gallwch ddweud mai "dinas yw Abertawe" i'ch arwain i gredu ei bod yn fenywaidd, ond gallech chi hefyd ddweud mai "twll yw Abertawe": a fyddai hynny'n eich arwain i feddwl amdano fel pe bai'n wrywaidd?! Y peth pwysica, rwy'n credu, yw mai gwrywaidd yw cenedl yr enw 'aber', felly Aber Mwy Diogel fyddai 'Safer Aber' pe bai ymgyrch gyfatebol ar gael yn y pentre yn ymyl Caerffili. -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Fiona Wells Sent: 26 April 2006 08:45 To: [log in to unmask] Subject: Re: Safer Swansea Mae'r logo yma'n bodoli ers cyn i minne ddod i Abertawe, ond o'r hyn a geir yn rhai o gyhoeddiadau eraill y Cyngor, rwy'n credu mai'r cysyniad yw Abertawe fel lle, yn hytrach na dinas, a dyna pam na cheir treiglad Diolch Fiona >From: GLENYS ROBERTS <[log in to unmask]> >Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > <[log in to unmask]> >To: [log in to unmask] >Subject: Safer Swansea >Date: Tue, 25 Apr 2006 16:47:21 +0100 > >'Abertawe Mwy Diogel' meddai'r logo, a dyna fydd yn rhaid imi ei ddefnyddio >felly. Ond gan mai dinas (eb) yw Abertawe, onid 'Abertawe Fwy Diogel' >fyddai'n gywir? 'Y ddiweddar Fusus Jones', yntê? Neu a oes yna ryw >gysyniad arall y tu ôl i Abertawe? > >Ac mae 'mhen i'n dechrau nogio erbyn hyn, ar ôl bod yn yr W^yl Ban Geltaidd >drwy'r penwythnos ...