Dw i'n cael llond bol ar yr e-bost 'ma.
Anfonais neges at y grwp, a chan na ddaeth copi'n ol ataf, es i'r archif i weld
a oedd hi wedi mynd trwyodd - a dyma ddod o hyd i negeseuon gan Geraint, Berwyn,
Mary, Glenys a David nad ydynt wedi cyrraedd o gwbl.
Mary: Dw i'n amau bod yr hyn mae Bruce
yn dweud wrth y dosbarth yn rhywbeth yn debyg i ateb Glenys, ond ni allaf
ddangos eich neges iddo gan mai fel hyn mae'n ymddangos yn yr archif ac ni
allaf fod yn hollol sicr ynghylch ei "throsi". Wrth feddwl, efallai y bydd
yn edrych yn iawn ar eich peiriant chi). A oes modd ichi anfon y neges
ataf mewn fformat symlach os gwelwch yn dda (h.y. os nad yw'r gweinydd wedi
rhoi'r gorau iddi am y prynhawn beth bynnag)?
Os gŵyr unrhyw rai
ohonoch am ffordd i ddysgu myfyrwyr pryd i ddefnyddio ‘a’ a phryd i
ddefnyddio ‘os’, fe fyddwn yn sobor, sobor o falch cael clywed. Mae’n
amlwg nad yw’r glust o help yn y byd erbyn hyn. Yr unig ddull sy gen i yw
troi’r cymal i’r Saesneg a defnyddio’r prawf ‘whether’ ac ‘if’. Dim ond un
ohonyn nhw ddylai wneud synnwyr: hyd y gwn i, dyw hi ddim yn bosib defnyddio’r
ddau. Ydw i’n iawn? Neu a oes yna dric arall sy’n
gweithio?
Sylwer - Tybed a
yw'r broblem hon yn codi'n aml yn yr archif - os felly, mae'n mynd i achosi
trafferth yn y dyfodol.
Ann