Print

Print


Playing the crwth
Wrth lansio'r gronfa genedlaethol o dermau wedi'u safoni yng Nghaerdydd yn ddiweddar, fe ddywedodd Cadeirydd Bwrdd yr Iaith mai'r diwrnod y byddai'r drafodaeth ar dermau yn peidio fyddai diwrnod tranc yr iaith Gymraeg. Nid cecru sydd yma, ond trafod yn union fel petaen ni'n eistedd o gwmpas y bwrdd ac yn ymdrin â thermau o'n gwahanol safbwyntiau.
 
O weld y drafodaeth ar yr eitem hon, anfonodd rhywun sy'n gweithio mewn sefydliad cyhoeddus y neges hon ata i: "Ew dach chi'n cael sgyrsiau difyr ar y wefan termau Cymraeg 'na !" Rwy'n credu bod hynny'n dweud y cyfan.
 
Berwyn
 
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Rhian Huws
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, April 25, 2006 8:43 AM
Subject: Playing the crwth

Gair i fynegi fy siom bod yr hyn sydd i fod yn fforwm drafod i'r proffesiwn cyfieithu yng Nghymru yn dechrau troi'n rhyw fath o fforwm gecru. Mae'n adlewyrchiad truenus ar y byd cyfieithu os na allwn ni fel cyfieithwyr proffesiynol gael trafodaeth o safon a pharchu barn y rhai sy'n gweithio yn yr un maes â ni - hyd yn oed os nad ydym yn digwydd cytuno â'r farn honno. Nid dyma'r lle i geisio gwneud pwyntiau 'gwleidyddol' - mae Cymru'n fach ac mae'r diwydiant hwn yn llai fyth, a'r cyfan a wna trafodaeth fel hon yw niweidio'n hachos. Cofiwch ein bod i gyd yn gweithio tuag at yr un nod yn y pen draw!

Rhian

Rhian Huws
Arbenigwr Iaith Gymraeg/Welsh Language Specialist
Canolfan Iechyd Cymru/Wales Centre for Health
14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol/14 Cathedral Road
Caerdydd/Cardiff
CF11 9LJ

Ffôn/Telephone: 029 20227744
Ebost/Email: [log in to unmask]


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.385 / Virus Database: 268.4.5/322 - Release Date: 22/04/2006