Print

Print


Meg - mi fu trafod ar hyn (gw. o dan 'spacers' yn yr archifau) sbel yn ôl, efo eglurhad taclus gan Magi; trafodaeth ddiganlyniad fu hi, ond dw i'n meddwl imi ddefnyddio 'dyfais wahanu' yn y diwedd gan fod y ddyfais yn dal y cyffur ar wahân, ei ddal yn ôl rhag llifo'n ddilyffethair am wn i.  Ond ro'n i'n hoffi 'swigen' Catrin hefyd.  Ac mae 'dyfais bylchu' yn dderbyniol hefyd dw i'n siwr, er y baswn i'n tueddu i roi 'dyfais fylchu'.
G
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Friday, April 07, 2006 10:17 AM
Subject: Re: spacer

dyfais bylchu sydd gan NICE (y bobl Clinical Excellence na) ar eu gwefan benodol hwy www.nice.org.uk/page.aspx?ln=cy&o=17210 - 37k
cystal enw ag unrhyw beth arall am wn i.
magi
Ffôn / Tel: 01938 500286
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">MEG ELIS
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Friday, April 07, 2006 9:00 AM
Subject: spacer

Sef rhan o declyn cymryd meddyginiaeth asthma. Dwi'n chwilio am air gweddol syml a dealladwy, gan mai taflen i gleifion sydd dan sylw.
 
Diolch ymlaen llaw,
 
Meg