Mae Bruce yn arfer tynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng "teulu" a "pherthnasau" fel cyfieithiadau am "family". Yn aml cyfieithir rhywbeth fel "is the patient visited by the family" gan ddefnyddio "y teulu", sy'n creu llun o hanner cant o fodrabedd ac ati i gyd yn cyrraedd gyda'i gilydd, lle byddai "perthnasau" yn well. A oes angen gwneud yr un gwahaniaeth yma, gan fod "family carers" yn debyg o olygu gofal gan berthnasau/aelodau o'r teulu yn hytrach na chan y teulu i gyd? Ann ----- Original Message ----- From: "David Bullock" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, April 25, 2006 1:03 PM Subject: Re: kinship carers, family and friend carers Nage 'tylwyth' yw teulu estynedig? -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Delyth Prys Sent: 25 April 2006 13:00 To: [log in to unmask] Subject: Re: kinship carers, family and friend carers Ysgrifennodd Ann Wiliam: >Mae Cysgeir yn rhoi "carennydd" ac mae'n werth chwilio Gwgl e.e. >www.baaf.org.uk/info/firstq/fostering_cym.shtml sy'n rhoi'r diffiniad >canlynol: > >Maethu "teulu a ffrindiau" neu faethu "carennydd"- pan fydd plant sy'n >derbyn gofal gan awdurdod lleol yn cael eu gofalu amdanynt gan bobl y maen >nhw eisoes yn eu hadnabod. Gall hyn fod yn fuddiol iawn i'r plentyn, ac >fe'i gelwir yn faethu "teulu a ffrindiau" neu faethu "carennydd". Os nad >yw'r awdurdod lleol yn gofalu amdano, gall plant fyw gyda'u modrybedd, >ewyrth, brodyr, chwiorydd neu neiniau a theidiau heb gysylltiad o'r tu >allan. >Ann > > > Holais Wasanaethau Cymdeithasol Gwynedd am hyn a chael yr ateb eu bod yn defnyddio 'teulu' neu 'teulu estynedig' yn naturiol yn y Gymraeg yn y cyd-destun hwn. Delyth -- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.385 / Virus Database: 268.4.6/323 - Release Date: 24/04/06