Diolch i chi Berwyn - ro'n i’n amau mai NVQ/GNVQ oedd yn cael ei ddefnyddio. 

Dyma gymar Saesneg y wefan yn ogystal, gan nad yw'r ddolen Saesneg yn mynd â rhywun yno'n uniongyrchol:

http://www.carmarthenshire.gov.uk/CCC_APPS/eng/documents/documents/education_strategic_plan/7.asp

Cofion gorau,

Huw


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones
Sent: 27 March 2006 16:36
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Acronymau Addysg

Rhestr ddefnyddiol, ond rhoddais y gorau i ddefnyddio

CGCC: Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol

am GNVQ am fod y cyfieithiadau Cymraeg o'r cymhwyster hwnnw, yr NVQ a'r cyrff cysylltiedig i gyd yn gyfuniadau blith draphlith o CCCCC ac ambell G - cyfuniadau na allai neb eu hynganu heb faglu'n dost neu golli'i ddannedd gosod. Gwell derbyn GNVQ a ffurfiau tebyg, am wn i.
 
Berwyn
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Huw Tegid
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Monday, March 27, 2006 3:50 PM
Subject: Acronymau Addysg

Wn i ddim am y rhestr dan sylw, ond fe allai hon fod o gymorth i chi.
 
http://www.carmarthenshire.gov.uk/CCC_APPS/cym/documents/documents/education_strategic_plan/7.asp
 

Cofion gorau,

Huw


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Iestyn Jones Evans
Sent: 27 March 2006 15:42
To: [log in to unmask]
Subject:

Tybed all rhywun fy helpu?

Oes yna gyfieithiadau ar gael i ‘ACRONYMS’, y termau addysg, sydd ar wefan NFER?  Deuthum ar draws y wefan hon yn ddiweddar, ond yn methu cael gafael ar gyfieithiadau Cymraeg iddynt, heb wrth gwrs chwilota yn Term Cymru ayb ayb!

Diolch

Iestyn


--

Ymwadiad Ebost
Ar gyfer y derbynwyr a enwir yn unig y mae'r trosglwyddiad ebost hwn.  Gallai gynnwys gwybodaeth breifat a chyfrinachol.  Os nad chi yw'r derbyniwr bwriadedig, rhaid i chi beidio â chymryd camau gweithredu'n seiliedig arno, na'i gopïo na'i ddangos i unrhyw berson; byddwch cystal â chysylltu â
[log in to unmask] ar unwaith os derbyniwch y neges hon trwy gamgymeriad.  Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled neu niwed sy'n digwydd o ganlyniad i firysau meddalwedd.

Email Disclaimer
This electronic mail transmission is intended for the named recipients only.  It may contain private and confidential information, If you are not the intended recipient, you must take no action based upon it, nor must you copy it or show it to anyone; please contact 
[log in to unmask]
immediately if you have received this message by mistake.  We cannot accept any liability for any loss or damage sustained as a result of software viruses.
 


--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.385 / Virus Database: 268.3.2/293 - Release Date: 26/03/2006