Cytuno – mae hyn yn gwneud i mi feddwl am rywbeth ddywedodd fy mrawd wrth y dynion glanhau ffenestri ddaeth i’n tŷ ni pan oedd yn dair oed: “Where’s your car you?”.

 

Garmon

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Løvgreen
Sent: 17 March 2006 10:03
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Your Police - Your Money

 

Heb weld y daflen ond os mai "Eich Heddlu - Eich Arian" ydi'r pennawd Cymraeg dwi'n rhannu dy deimladau! Mae pwyslais y Saesneg ar y "Your", felly mae'n rhaid cael "Chi" ar y diwedd. Mae'n gwneud ichi ofyn ai pobl ddi-Gymraeg sy'n sgwennu'r penawdau 'ma!

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">David Bullock

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Friday, March 17, 2006 9:56 AM

Subject: Your Police - Your Money

 

Oes rhywun arall wedi cael taflen dan yr enw yma yn y post yn ddiweddar? Ac fel fi yn tynnu gwallt eu pen yn eu rhwystredigaeth o weld y pennawd Cymraeg cyfatebol?

 

Mae "Your x, your y" wedi mynd yn fformwla weddol gyffredin mewn deunyddiau cyhoeddusrwydd, felly pam nad yw pobl yn deall mai "Eich Heddlu chi - Eich Arian chi" sy'n gywir yn Gymraeg?