Print

Print


'cwnstabl rhan-amser' sydd yng Ngeiriadur yr Academi, a 'cwnstabl gwirfoddol' yng Ngeiriadur Newydd y Gyfraith (gan ddyfynnu Heddlu Dyfed Powys). Mae'n amlwg nad ydyn nhw'n ddigon sbesial i fod yn arbennig ...
 
Dyw 'byddwch yn rhywbeth rhan-amser/gwirfoddol' ddim yn rhyw bersain iawn, rwy'n ofni.
 
Sori, Bet, does gen i ddim byd i'w gynnig (mae gwobr dosbarth Dean o bythefnos o brofiad gwaith gyda chyfieithwyr y Cynulliad wedi fferru f'ymennydd!)
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">MEG ELIS
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, January 25, 2006 7:26 PM
Subject: Re: be part of something special

Beth yw'r enw arnyn nhw yn Gymraeg - heddlu/cwnstabliaid arbennig? Os felly, beth am rywbeth fel "'Sgen ti awydd bod yn arbenigwr?".
 
Meg

Bet Eldred <[log in to unmask]> wrote:
 
 
Slogan yn ymwneud â’r Heddlu Gwirfoddol sydd gennyf.  Wrth gwrs, yn Saesneg Special Constables ydyn nhw ac felly mae ‘be part of something special’ yn addas iawn.
 
Oes gan rywun syniadau bachog a chryno os gwelwch yn dda?
 
Diolch ymlaen llaw
Bet
 


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.375 / Virus Database: 267.14.22/239 - Release Date: 24/01/2006