Does bosib mai yng Ngheredigion yn unig
mae pobobl ddidoreth! Mae yna ddigon ohonyn nhw ‘ma – a finne’n
un! O ran diddordeb, clywais athrawes tua 50 oed mewn ysgol yn Aberpennar yn
dweud ‘She’s very didorath, you know’. Doedd hi eriod wedi
deall mai gair Cymraeg oedd e. Defnyddiodd ‘di-rên’ (sef ‘di-raen’)
hefyd ryw brynhawn. Bron i fu syrthio oddi ar fy stôl! Ond ydy, mae
didoreth yn fyw (rhy fyw!) ac yn iach yn y parthe hyn, a’r ystyr yw didoriad,
di-lun, hwp-di-hap.
Mary
From: Discussion of
Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of Sian Roberts
Sent: 01 December 2005 15:37
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: Haphazard - didoreth
O Geredigion –
ardal y Cei - y daeth i'n teulu ni.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language
technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of Alwyn Evans
Sent: 01 December 2005 15:22
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: Haphazard - didoreth
Ie - rhan o iaith y Cymoedd a'r Wenhwyseg mi gredaf, ond bod Meri
Wiliam am unwaith wedi methu hwnnw yn ei llyfryn bendigedig 'Blas ar iaith y
Blaenau a'r Cymoedd'. Mae GPC yn cyfiethu didoreth fel 'shiftless' a fickle' -
felly mae'n air da ac addas iawn am rywun bler a di-drefn.
O'r Hirwaun y daeth i'n teulu ni!
Alwyn