Does bosib mai yng Ngheredigion yn unig mae pobobl ddidoreth! Mae yna ddigon ohonyn nhw ‘ma – a finne’n un! O ran diddordeb, clywais athrawes tua 50 oed mewn ysgol yn Aberpennar yn dweud ‘She’s very didorath, you know’. Doedd hi eriod wedi deall mai gair Cymraeg oedd e. Defnyddiodd ‘di-rên’ (sef ‘di-raen’) hefyd ryw brynhawn. Bron i fu syrthio oddi ar fy stôl! Ond ydy, mae didoreth yn fyw (rhy fyw!) ac yn iach yn y parthe hyn, a’r ystyr yw didoriad, di-lun, hwp-di-hap. Mary _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts Sent: 01 December 2005 15:37 To: [log in to unmask] Subject: Re: Haphazard - didoreth O Geredigion – ardal y Cei - y daeth i'n teulu ni. -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Alwyn Evans Sent: 01 December 2005 15:22 To: [log in to unmask] Subject: Re: Haphazard - didoreth Ie - rhan o iaith y Cymoedd a'r Wenhwyseg mi gredaf, ond bod Meri Wiliam am unwaith wedi methu hwnnw yn ei llyfryn bendigedig 'Blas ar iaith y Blaenau a'r Cymoedd'. Mae GPC yn cyfiethu didoreth fel 'shiftless' a fickle' - felly mae'n air da ac addas iawn am rywun bler a di-drefn. O'r Hirwaun y daeth i'n teulu ni! Alwyn