Message'Roeddwn i'n meddwl am "wedge heels", er bod y gair "wedge" yn Saesneg yn cyfleu siâp trionglog. Gwelaf o GyrA fod modd "wedge up a piece of furniture" trwy roi "gwadn" dan un pen. Cymeraf na fyddai "gwadn pen-ôl" yn dderbyniol? Awgrymiadau Bruce, yn fwy ymarferol, yw "sedd glustog" a "sedd ddyrchafu". Ann ----- Original Message ----- From: Berwyn Jones To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, December 13, 2005 5:21 PM Subject: Re: booster seat/booster cushion Byddwn i'n tybio bod pob sedd yn gynhaliol. Fyddai hi ddim yn sedd fel arall. Yr hyn y byddai 'sedd gynhaliol' yn ei olygu i mi yw sedd a fyddai'n eich dal yn dynn ymhobman, fel sedd mewn car rasio, yn hytrach na rhywbeth sy'n fwy tebyg i flocyn pren ond ychydig bach yn fwy cyfforddus. Berwyn ----- Original Message ----- From: Heledd Mitchell To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, December 13, 2005 4:57 PM Subject: Re: booster seat/booster cushion Mae gen i frith gof y trafodwyd y term 'cynhaliol' i gyfleu hyn bron i flwyddyn yn ôl, os nad rhagor. Wn i ddim a fyddai hynny'n gwneud y tro fan hyn. Heledd -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones Sent: 13 December 2005 16:43 To: [log in to unmask] Subject: Re: booster seat/booster cushion Fe ddes i ar draws y neges isod ar fy system - dylai fod wedi cael ei hanfon cyn fy neges ddwetha: Petai'n rhoi 'hwb', fe âi'r plentyn dros sedd y gyrrwr neu'r teithiwr a tharo'r sawl sydd ar y sedd o'i flaen - neu allan drwy'r ffenest ... Byddai'n nes at fod yn 'ejector seat'! Y broblem yw bod 'booster seat' yn defnyddio'r gair 'booster' mewn ffordd go anarferol. Ystyr weithredol sydd i'r gair fel rheol. ond yn yr achos hwn y cyfan y mae'r sedd yn ei wneud yw dal y plentyn ar lefel uwch na sedd arferol y car Berwyn ----- Original Message ----- From: Eirian Youngman To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, December 13, 2005 3:04 PM Subject: Re: booster seat/booster cushion Beth am sedd hybu - h.y. yn yr ystyr o 'roi hwb' yn llythrennol? Eirian ----- Original Message ----- From: Mary Jones To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, December 13, 2005 2:56 PM Subject: Re: booster seat/booster cushion Ges inne'r un broblem yn union, Berwyn, a gorfod dod i'r un casgliad yn union, er nad own i'n hapus. Mary ---------------------------------------------------------------------- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones Sent: 13 December 2005 14:05 To: [log in to unmask] Subject: Re: booster seat/booster cushion Rwy'n credu i mi ddefnyddio 'sedd godi' am 'booster seat' wrth gyfieithu rhyw ddeunydd diogelwch ar y ffyrdd beth amser yn ôl. Dôn i ddim yn gwbl hapus gan fod y fath beth yn bod (neu o leiaf yn arfer bod) â 'tip-up seat'. Ond yng nghyd-destun plant mewn ceir, rôn i'n tybio y byddai ystyr 'sedd godi' yn ddigon clir. Berwyn ----- Original Message ----- From: Pennawd Cyf. To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, December 13, 2005 12:50 PM Subject: booster seat/booster cushion I blant mewn ceir. Diffiniad: "a seat/cushion to raise a child in a vehicle so that the vehicle's seat belt fits properly". Gwregys y car sy'n dal y plentyn, yn wahanol i 'child seat', lle mae gan y sedd ei hun strapiau i ddal y plentyn, a'r sedd wedi'i gosod yn y car gan ddefnyddio gwregys y car neu ryw system arall. Mae fersiwn Cymraeg y tudalen sy'n sôn am seddi o'r fath ar wefan 'Her Iechyd Cymru' yn defnyddio 'sedd plentyn' am 'child seat' a 'sedd gyfnerthu/clustog cyfnerthu' am 'booster seat/booster cushion'! A oedd y cyfieithydd yn meddwl am bigiadau, efallai? Gan mai codi'r plentyn yw'r diben, a fyddai 'sedd godi' yn iawn? Neu a yw hynny'n awgrymu y math o gadair â mecanwaith trydan i godi'r sedd, a ddefnyddir gan bobl sy'n cael trafferth codi o gadair? -------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.371 / Virus Database: 267.13.13/198 - Release Date: 12/12/2005 ------------------------------------------------------------------------ No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.371 / Virus Database: 267.13.13/198 - Release Date: 12/12/2005 ---------------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.371 / Virus Database: 267.13.13/198 - Release Date: 12/12/2005 ------------------------------------------------------------------------------ No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.371 / Virus Database: 267.13.13/198 - Release Date: 12/12/05