Byddwn i'n tybio bod pob sedd yn gynhaliol. Fyddai hi ddim yn sedd fel arall. Yr hyn y byddai 'sedd gynhaliol' yn ei olygu i mi yw sedd a fyddai'n eich dal yn dynn ymhobman, fel sedd mewn car rasio, yn hytrach na rhywbeth sy'n fwy tebyg i flocyn pren ond ychydig bach yn fwy cyfforddus.
 
Berwyn
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Heledd Mitchell
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, December 13, 2005 4:57 PM
Subject: Re: booster seat/booster cushion

Mae gen i frith gof y trafodwyd y term 'cynhaliol' i gyfleu hyn bron i flwyddyn yn ôl, os nad rhagor. Wn i ddim a fyddai hynny'n gwneud y tro fan hyn.
 
Heledd
 
 -----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones
Sent: 13 December 2005 16:43
To: [log in to unmask]
Subject: Re: booster seat/booster cushion

Fe ddes i ar draws y neges isod ar fy system - dylai fod wedi cael ei hanfon cyn fy neges ddwetha:
 
Petai'n rhoi 'hwb', fe âi'r plentyn dros sedd y gyrrwr neu'r teithiwr a tharo'r sawl sydd ar y sedd o'i flaen - neu allan drwy'r ffenest ... Byddai'n nes at fod yn 'ejector seat'!
 
Y broblem yw bod 'booster seat' yn defnyddio'r gair 'booster' mewn ffordd go anarferol. Ystyr weithredol sydd i'r gair fel rheol. ond yn yr achos hwn y cyfan y mae'r sedd yn ei wneud yw dal y plentyn ar lefel uwch na sedd arferol y car
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Eirian Youngman
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, December 13, 2005 3:04 PM
Subject: Re: booster seat/booster cushion

Beth am sedd hybu - h.y. yn yr ystyr o 'roi hwb' yn llythrennol?
 
Eirian
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Mary Jones
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, December 13, 2005 2:56 PM
Subject: Re: booster seat/booster cushion

Ges inne’r un broblem yn union, Berwyn, a gorfod dod i’r un casgliad yn union, er nad own i’n hapus.

Mary

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones
Sent: 13 December 2005 14:05
To: [log in to unmask]
Subject: Re: booster seat/booster cushion

Rwy'n credu i mi ddefnyddio 'sedd godi' am 'booster seat' wrth gyfieithu rhyw ddeunydd diogelwch ar y ffyrdd beth amser yn ôl. Dôn i ddim yn gwbl hapus gan fod y fath beth yn bod (neu o leiaf yn arfer bod) â 'tip-up seat'. Ond yng nghyd-destun plant mewn ceir, rôn i'n tybio y byddai ystyr 'sedd godi' yn ddigon clir.

Berwyn

----- Original Message -----

From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Pennawd Cyf.

To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Tuesday, December 13, 2005 12:50 PM

Subject: booster seat/booster cushion

I blant mewn ceir.  Diffiniad:

"a seat/cushion to raise a child in a vehicle so that the vehicle's seat belt fits properly".

Gwregys y car sy'n dal y plentyn, yn wahanol i 'child seat', lle mae gan y sedd ei hun strapiau i ddal y plentyn, a'r sedd wedi'i gosod yn y car gan ddefnyddio gwregys y car neu ryw system arall.

Mae fersiwn Cymraeg y tudalen sy'n sôn am seddi o'r fath ar wefan 'Her Iechyd Cymru' yn defnyddio 'sedd plentyn' am 'child seat' a 'sedd gyfnerthu/clustog cyfnerthu' am 'booster seat/booster cushion'!  A oedd y cyfieithydd yn meddwl am bigiadau, efallai?

Gan mai codi'r plentyn yw'r diben, a fyddai 'sedd godi' yn iawn? Neu a yw hynny'n awgrymu y math o gadair â mecanwaith trydan i godi'r sedd, a ddefnyddir gan bobl sy'n cael trafferth codi o gadair?

No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.371 / Virus Database: 267.13.13/198 - Release Date: 12/12/2005